Neidio i'r prif gynnwy

Practis Deintyddol Portfield yn dychwelyd contract Deintyddol GIG

12 Mawrth 2024

Mae Practis Deintyddol Portfield yn Hwlffordd wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddychwelyd ei gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GIG) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) ar 31 Mai 2024.

Bydd hyn yn golygu na fydd y Practis yn darparu gofal deintyddol GIG o 1 Mehefin 2024 ymlaen.

Fodd bynnag, bydd y Practis yn parhau i ddarparu unrhyw ofal brys y gall fod ei angen ar gleifion hyd at 1 Mehefin 2024 a bydd yn sicrhau bod unrhyw driniaeth a ddechreuwyd cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei chwblhau.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda'r Practis i sicrhau bod y cleifion hynny sydd wedi derbyn gofal deintyddol y GIG yn flaenorol gan Bractis Deintyddol Portfield, yn cael gwybodaeth berthnasol am eu gofal parhaus, a'r opsiynau sydd ar gael iddynt tra bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i Ddarparwr Gwasanaeth newydd ar gyfer yr ardal.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i gleifion am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i’r Practis dros y blynyddoedd a gwerthfawrogi’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y boblogaeth leol.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i ateb hirdymor sy’n sicrhau’r gwasanaeth pwysig hwn i’r ardal cyn gynted â phosibl.”

Ar ôl i gontract y GIG ddod i ben, dylai cleifion sy’n dioddef poen deintyddol gysylltu â 111 i gael apwyntiad mynediad brys sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos.

Gall cleifion sy’n glaf y GIG sy’n gysylltiedig â Phractis Deintyddol Portfield gysylltu â’r Bwrdd Iechyd drwy anfon e-bost at HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322 estyniad 4 er mwyn cael eu rhoi ar restr dal ar gyfer y Practis newydd unwaith y bydd y gwasanaeth yn ei le.

Gofynnwn i gleifion ymatal rhag galw Practisau Deintyddol amgen yn yr ardal ar hyn o bryd, gan fod y Practisau hyn yn profi nifer llethol o alwadau.

I gael gwybodaeth am sut y gallwch gael mynediad at ofal deintyddol y GIG mewn practis arall, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/deintyddol/ (agor mewn tab newydd) neu cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Deintyddol ar HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk

DIWEDD