Neidio i'r prif gynnwy

Pob ward yr effeithir arnynt gan RAAC wedi eu hailagor

Ebrill 23 2024

Mae pob un o'r chwe ward yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd a gafodd eu cau oherwydd presenoldeb planciau RAAC y llynedd nawr wedi eu hailagor.

Caewyd chwech o’r 12 ward yn ysbyty Sir Benfro yr haf diwethaf ar ôl i nifer sylweddol o concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) gael eu darganfod yn adeilad yr ysbyty.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddigwyddiad mawr mewnol er mwyn canfod maint ac effaith RAAC ar y safle ac er mwyn cynnal arolwg a gwaith atgyweirio brys.

Yn ogystal â'r chwe ward, roedd ardaloedd ar y llawr gwaelod a'r gegin, gan gynnwys ystafelloedd cleifion allanol ac ystafelloedd clinig ar gau hefyd.

Cafodd wardiau 7, 9 a 12 eu hailagor adeg y Nadolig; Roedd Ward 11 yn gweithredu unwaith eto ym mis Ionawr tra bod Ward 10 yn cael ei hailagor yn gynharach y mis hwn.

Fe ddaeth gwaith i ben ar Ward 8, y ward olaf i ail-agor, wythnos ddiwethaf.

Un o'r gwasanaethau yr effeithiwyd arno fwyaf gan arolwg a gwaith atgyweirio RAAC sy'n mynd rhagddo yw llawdriniaeth ddewisol i gleifion mewnol, ond wrth i bob ward gael ei hailagor, caiff hyn ei gyflwyno'n ôl i'r ysbyty yn awr.

Fodd bynnag, mae rhywfaint o waith helaeth i’w wneud o hyd ar y Llawr Gwaelod yn Llwynhelyg gan gynnwys yn Adrannau Cleifion Allanol A a B a’r Adran Ffisiotherapi sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac sy’n cael eu cefnogi’n llawn dros dro gyda phropiau ac sy’n ddiogel i weithredu ynddynt.

Mae'n debygol y bydd aflonyddwch pan fydd y mannau hyn ar gau er mwyn i waith atgyweirio gael ei wneud.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Andrew Carrurthers: “Rydym yn falch iawn bod y wardiau a gaewyd wrth i ni wneud gwaith atgyweirio hanfodol concrit RAAC nawr i gyd yn gweithredu fel arfer.

“Ac er bod llawer o waith i’w wneud o hyd i reoli’r arolwg a’r gwaith atgyweirio o ganlyniad i ddarganfod concrit RAAC, rydym bellach mewn lle llawer gwell nag yr adeg hon y llynedd.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i staff sydd wedi gorfod addasu’n gyflym iawn i sefyllfa sy’n newid yn gyflym. Mae hyn ar ben gaeaf anodd sydd wedi gweld Adrannau Achosion Brys (A&E) yn ein holl ysbytai yn gorfod ymdopi dan bwysau aruthrol. Gobeithiwn y bydd ailagor y wardiau yn Llwynhelyg yn lleddfu rhywfaint ar y pwysau hwn.

“Mae ein staff wedi dangos gwaith tîm anhygoel a gwydnwch yn ystod cyfnod anodd iawn, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth. Diolch hefyd i’n cleifion ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi’u heffeithio gan y gwaith parhaus. Mae rhai wedi gorfod cael eu trin mewn lleoliadau amgen o fewn ardal y bwrdd iechyd, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.

“Daethpwyd â’r digwyddiad mawr mewnol a ddatganwyd yn Ysbyty Llwynhelyg i ben ym mis Ionawr, ond bydd gwaith arolygu ac atgyweirio’n parhau tan wanwyn 2025, felly mae tipyn o ffordd i fynd cyn i ysbyty Llwynhelyg ddychwelyd i wasanaeth arferol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’n staff, cleifion a’r cyhoedd a rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf.”

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Mae ei bresenoldeb wedi ei gadarnhau yn Ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan gyfyngedig o Ysbyty Bronglais. Mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r GIG ac adeiladau cyhoeddus eraill megis ysgolion, ledled y DU.

Mae rhagor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin ar gael ar wefan Hywel Dda RAAC - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).

DIWEDD