Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Swyddog Codi Hyder i annog staff i ddefnyddio eu Cymraeg

3 Mawrth 2023

Mae Swyddog Codi Hyder newydd wedi’i ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith i ddarparu cyfres o gyrsiau codi hyder byr i staff gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Nod cynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan yw cynorthwyo cyflogwyr i uwch sgilio'r gweithlu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith.

Dywedodd Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Pwrpas y sesiynau codi hyder yw newid arferion ieithyddol a gwella hyder, fel bod ein staff yn fwy tebygol o ddefnyddio’u Cymraeg i gyfathrebu ag eraill a chwblhau tasgau yn y gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fel Bwrdd Iechyd rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle i’n staff a’n defnyddwyr gwasanaeth. Mae data sgiliau iaith y gweithlu’n dangos bod canran sylweddol o  siaradwyr Cymraeg yn gweithio i’r bwrdd iechyd ond o adborth diweddar mae’n amlwg bod nifer yn teimlo mai diffyg hyder sy’n eu dal yn ôl”.

Dywedodd Siwan Iorwerth, Rheolwr Cynllun Cymraeg Gwaith, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol: “Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu fydd yn y pen draw yn cynyddu gwasanaethau Cymraeg y bwrdd iechyd.

“Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi hyder i’r unigolion i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg yn y gwaith yn ogystal â’u bywydau bob dydd.”

Bydd y Swyddog Codi Hyder llawn amser, Richard Jones, yn cael ei gyflogi gan un o ddarparwyr Dysgu Cymraeg, sef Prifysgol Aberystwyth am gyfnod o 12 mis. Y nod yw cynnig cyrsiau codi hyder byr a gweithio gydag unigolion i newid y defnydd maent yn ei wneud o’r Gymraeg gyda chleifion. Bydd y gyfres o gyrsiau Codi Hyder yn agored i holl staff y bwrdd iechyd yn ogystal â thargedu grwpiau o staff penodol megis Derbynyddion, Prentisiaid, a Nyrsys; staff sydd â chyswllt uniongyrchol a chleifion.