Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Dr Neil Wooding yn Gadeirydd Hywel Dda

19 Mawrth 2024

Heddiw, 19 Mawrth 2024, mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi bod Dr Neil Wooding wedi ei benodi'n Gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Dr Neil Rhys Wooding yn arweinydd ac aelod Bwrdd profiadol. Mae wedi treulio ei yrfa fel gwas cyhoeddus ac wedi gweithio mewn rolau uwch mewn llywodraeth ganolog, ranbarthol a lleol yn ogystal â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r trydydd sector. Yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Gweithredol yn Swyddfa'r Cabinet a Phrif Swyddog Pobl yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2018-2021).

Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac mae’n Gydymaith Sefydliad Siartredig Rheoli Pobl. Mae Dr Wooding yn byw yng Ngheredigion a dyfarnwyd CBE iddo yn 2022.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Pleser yw cyhoeddi penodiad Neil Wooding fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Daw â chyfoeth o brofiad sector cyhoeddus a gwybodaeth leol i’r swydd hon.”

Wrth longyfarch Dr Wooding ar ei benodiad, dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rwyf wrth fy modd bod Neil wedi cael ei benodi i rôl Cadeirydd Hywel Dda. Rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda Neil yn y gorffennol, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i sicrhau trosglwyddiad llyfn wrth iddo gamu i'r rôl ym mis Mehefin 2024.

"Yn ogystal â'i brofiad proffesiynol, mae hefyd yn aelod o'n cymuned leol ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o'n gwasanaethau. Mae dal rôl y Cadeirydd yn fraint, ac rwy'n hyderus y bydd Hywel Dda mewn dwylo diogel, dan arweiniad Neil. Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel Aelod Annibynnol, Is-gadeirydd a Chadeirydd dros dro yn Hywel Dda ac rwy'n dymuno'r gorau i Neil a'r tîm i’r dyfodol."

Ychwanegodd Neil: "Rwy'n eiriolwr angerddol dros iechyd a llesiant, ac yn rhoi pwys mawr ar sut y gallwn ni i gyd, fel unigolion a chymunedau, chwarae rhan wrth alluogi'r canlyniadau iechyd gorau. Gan fy mod yn breswylydd yng Ngheredigion, mae gen i ddiddordeb mewn gweld ein bwrdd iechyd yn llwyddo - ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol fel ei gilydd. Edrychaf ymlaen at gamu i'r rôl yn yr haf a gweithio ochr yn ochr ag Aelodau Annibynnol profiadol y Bwrdd a'r gymuned ymroddedig o staff."

Mae Neil yn olynu Judith Hardisty yn y swydd, sydd wedi dal y rôl ers mis Hydref 2023 pan gafodd ei phenodi'n Gadeirydd dros dro y Bwrdd Iechyd yn dilyn ymddeoliad Maria Battle fel Cadeirydd. Bydd cyfnod Judith fel aelod o'r Bwrdd a Chadeirydd dros dro yn dod i ben ddiwedd mis Mai 2024. Mae'r penodiad yn amodol ar wrandawiadau cyn penodi, sy'n cael eu cynnal ar 25 Ebrill 2024.

Meddai'r Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Yn Hywel Dda rydym wedi bod yn ffodus i ddenu aelodau Bwrdd Annibynnol profiadol ac ymroddedig sy'n gweithio ochr yn ochr â ni fel arweinwyr – rwy’n falch bod hyn hefyd yn wir am Neil ac edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef am flynyddoedd i ddod ar hyrwyddo iechyd a llesiant yn ein cymunedau ac ar wella hygyrchedd at wasanaethau gofal iechyd rhagorol.

"Wrth groesawu Neil, hoffwn ddiolch hefyd i Judith am ei chyfraniadau niferus dros yr wyth mlynedd diwethaf – mae hi wedi bod yn Aelod Annibynnol gwych o’r Bwrdd, yn Is-gadeirydd ac yn fwy diweddar yn Gadeirydd dros dro. Rwy'n dymuno'n dda iddi i’r dyfodol ac rwy'n sicr y bydd hi, fel aelod o gymuned Hywel Dda, yn parhau i'n herio a'n cefnogi. Diolch yn fawr, Judith."

Mae'r Bwrdd yn chwarae rhan allweddol wrth lunio strategaeth, gweledigaeth, pwrpas a diwylliant y bwrdd iechyd. Mae'n dwyn y Bwrdd Iechyd i gyfrif am ddarparu gwasanaethau, strategaeth a gwerth am arian, a datblygu a gweithredu strategol. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod risgiau i'r Bwrdd Iechyd, staff a'r cyhoedd yn cael eu rheoli a'u lliniaru'n effeithiol. Dan arweiniad Cadeirydd annibynnol ac yn cynnwys cymysgedd o Aelodau Gweithredol ac Annibynnol, mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb ar y cyd am berfformiad y Bwrdd Iechyd.

Mae Aelodau Annibynnol o'r Bwrdd yn cael eu penodi am gyfnod cychwynnol o hyd at bedair blynedd, y gellir ei ymestyn.