Neidio i'r prif gynnwy

Pâr lleol sy'n gweithio i'r GIG yn rhannu sut wnaeth profion COVID-19 eu helpu i ddychwelyd i ofalu am gleifion

Mae cwpl lleol, sy'n hanfodol yn ymateb y GIG i COVID-19, wedi rhannu sut y gwnaeth profion helpu i roi tawelwch meddwl iddyn nhw, eu teuluoedd a'u cydweithwyr, tra hefyd yn caniatáu iddyn nhw fynd yn ôl i ddarparu gofal rheng flaen i gleifion.

Mae Mr Ed Abelardo yn Feddyg Arbenigol Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) sy'n gweithio yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Mae'n darparu gofal critigol i gleifion o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae ENT wedi bod yn un o sawl arbenigedd meddygol sydd ar flaen y gad yn yr ymateb i bandemig COVID-19, mewn ardal sydd â risg uchel ac sy'n gofyn am ddefnyddio offer amddiffynnol personol llawn.

Yn ogystal, mae ei wraig Heidi yn Nyrs Gofrestredig sydd wedi'i lleoli i weithio yn un o wardiau pwrpasol Coch COVID-19 yn Ysbyty Glangwili. Yn ôl ym mis Ebrill yn ystod y Pasg ac ar ôl gweithio gyda chleifion, datblygodd Ed symptomau sy'n gysylltiedig â COVID-19. “Roedd yn gyfnod pryderus dros ben,” meddai Ed. “Roeddwn yn poeni’n bennaf am fy nheulu gan feddwl fy mod wedi dod â’r firws adref.”

Mae Ed a Heidi yn byw gyda'u dau blentyn yng Nghaerfyrddin, ar ôl dod i'r DU o Ynysoedd y Philipinau ryw 12 mlynedd yn ôl. “Fe wnes i hunan-ynysu yn fy ystafell wely yn unol â chyngor y llywodraeth ac roedd yn brofiad swreal iawn cael prydau bwyd yr un pryd â fy nheulu ond trwy Facetime yn fy ystafell,” meddai Ed.

Yna cysylltodd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan fod y bwrdd yn profi staff hanfodol o fis Mawrth, a chafodd ei swabio ar yr un diwrnod ag adrodd am y symptomau. Esboniodd: “Roedd hi’n benwythnos Gŵyl y Banc ac felly cymerodd chwe diwrnod i gael y canlyniadau. Roedd yn rhyddhad mawr nid yn unig i mi, ond i'm teulu, dderbyn canlyniad negyddol. “Fe aethom yn ôl i’n trefn ddyddiol ar unwaith, gan gynnwys ymarfer corff gartref a cherdded y ci. Fe wnaeth hefyd ganiatáu imi fynd yn ôl i'r gwaith drannoeth ar ôl y canlyniad negyddol ac i'm gwraig ddychwelyd i'r gwaith yn fuan wedi hynny. " Dywedodd Ed fod cydweithwyr yn yr adran ENT, a'r rhai sy'n gweithio gyda'i wraig Heidi, yn hynod gefnogol ac wedi cymryd drosodd ei ddyletswyddau clinigol.

Cyngor y cwpl i unrhyw un sy'n poeni am gael y prawf yw: “Os ydych chi'n profi symptomau coronafirws, cofiwch gael eich profi cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi, eich teulu a'ch cydweithwyr.”

Mae symptomau nodweddiadol coronafirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golled neu newid i'ch synnwyr arogli neu flas.

Anogir gweithwyr hanfodol symptomatig, fel y rhai ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, yr heddlu, tân, addysg, bwyd, manwerthu, trafnidiaeth, gwasanaethau cyhoeddus, i gael prawf trwy siarad â'u cyflogwr neu gysylltu â'r tîm Ymholiadau Covid lleol yn uniongyrchol dros y ffôn ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio CovidEnquiries.hdd@wales.nhs.uk (nodwch fod hyn ar gyfer gweithwyr hanfodol yn unig).

Gall aelodau'r cyhoedd wneud cais am brawf trwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru: www.gov.wales/apply-coronavirus-test a dewis naill ai canolfan brofi gyrru drwodd neu archebu pecyn profi cartref. Gall y rhai heb fynediad digidol wneud cais am brawf trwy ffonio'r rhif 119 am ddim (rhwng 7 am-11pm) a gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.