Neidio i'r prif gynnwy

Offer pelydr-X newydd yn Ysbyty Dinbych-y-pysgod

22 Chwefror 2024

Bydd gwasanaethau pelydr-X yn Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod yn cael hwb mawr diolch i fuddsoddiad o £625,000 mewn offer newydd sbon sy’n cael ei osod ar y safle sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Bydd yr offer, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn galluogi’r uned nid yn unig i ddarparu delweddau o’r ansawdd uchaf ond bydd hefyd yn golygu y bydd yn haws darparu ar gyfer cleifion â symudedd cyfyngedig neu anghenion clinigol uwch.

Fodd bynnag, er mwyn gosod yr offer newydd, ni fydd gwasanaethau pelydr-x ar gael dros dro yn Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod tan ddydd Gwener, 19 Ebrill 2024.

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd delweddu ar gyfer cleifion meddygon teulu yn cael ei ddarparu ar sail apwyntiad yn unig yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro rhwng 9-5pm.

Gall cleifion sy'n mynychu'r ganolfan galw heibio Mân Anafiadau fynd i Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod o hyd ond gellir eu hanfon i Ysbyty Llwynhelyg os oes angen pelydr-x. Fel arall, gall cleifion ddewis mynd i Adran Achosion Brys Llwynhelyg yn uniongyrchol.

Dywedodd John Evans, Cyfarwyddwr Sir Benfro Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd y bydd Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod yn derbyn offer pelydr-x newydd sbon, diolch i’r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru.

“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir dros y cyfnod byr o amser tra bod yr offer yn cael ei osod ond edrychwn ymlaen at ddarparu lefel well o ofal i gleifion cymunedol Dinbych-y-pysgod yn y dyfodol.”

Dylai cleifion sydd angen cymorth neu wybodaeth bellach gysylltu ag adrannau radioleg Ysbyty Llwynhelyg ar 01437 773385 neu Ysbyty De Sir Benfro ar 01437 774018.

Mae’r bwrdd iechyd yn atgoffa pobl i beidio â mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys prysur oni bai bod ganddyn nhw argyfwng critigol sy’n bygwth bywyd ac yn gofyn i bobl ddewis eu gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn, fel mai dim ond pobl ag anghenion gofal brys neu frys sy’n cael eu gweld yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys.

Diwedd