Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Rhywedd Arbenigol cyntaf wedi'i phenodi

01 Medi 2023

Am y tro cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae Nyrs Rhywedd Arbenigol wedi'i phenodi i weithio fel rhan o'r Tîm Rhywedd lleol.

Mae Polly Zipperlen, nyrs iechyd rhywiol profiadol, wedi ymuno â Dr Sam Rice, Endocrinolegydd Ymgynghorol yn y tîm sy'n cefnogi cleifion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio i'r tîm yn cael eu hasesu'n gyntaf gan Wasanaeth Rhywedd Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, cyn cael eu rhyddhau yn ôl i'r cartref i'w rheoli'n barhaus.

Dywedodd Dr Sam Rice “Rydym wrth ein bodd bod gennym ni, am y tro cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wasanaeth clinigol i gefnogi ein cymuned draws leol.

“Gan weithio mewn partneriaeth â’n meddygon teulu mewn gofal sylfaenol a’r gwasanaeth rhywedd cenedlaethol, rydym wedi datblygu sylfaen gadarn a fydd yn gwella ein gallu i gefnogi’r grŵp hwn o bobl cymaint neu gyn lleied ag sydd ei angen arnynt.”

Ychwanegodd Polly Zipperlen, Nyrs Rhywedd Arbenigol “Rwy'n gyffrous iawn i fod yn y rôl hon. Mae’n dangos ymrwymiad gwirioneddol, byw i’r cymunedau traws yng ngorllewin Cymru.”

Rhan o rôl y Nyrs Rhywedd Arbenigol fydd cefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol i ddarparu gofal i'r gymuned draws leol.

Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Polly fel ein Nyrs Rhywedd Arbenigol cyntaf.

“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio i gefnogi ein cymunedau lleol ac rydym yn falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn arwain y ffordd yn ei ddull o ymdrin â gwasanaethau rhywedd drwy fuddsoddi yn y modd y darperir gofal yn lleol.”