Neidio i'r prif gynnwy

Nôl i'r ysgol – dim angen rhan o'r ysbyty maes mwyach

Mae Ysgol Penweddig yn paratoi i ailagor ei drysau yn ddiogel i ddisgyblion ym mis Medi 2020 wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drosglwyddo'r safle yn ddiolchgar yn ôl i Gyngor Sir Ceredigion.

Roedd safle'r ysgol yn un o ddau safle yn Ysbyty Enfys Aberystwyth sydd wedi bod wrth law ers Ebrill 2020 i dderbyn cleifion COVID-19 pe bai angen.

Nid oedd angen defnyddio'r safle, gan fod achosion wedi aros yn is na'r disgwyl yng Ngheredigion.

Bydd Canolfan Hamdden Plascrug, y safle arall yn Ysbyty Enfys Aberystwyth, yn aros wrth gefn fel ysbyty maes am y tro rhag ofn y bydd unrhyw glystyrau neu gopaon pellach o achosion yn herio'r GIG lleol. Mae hyn yn ychwanegol at ysbyty maes wrth gefn arall yn Ysbyty Enfys Aberteifi sydd wedi’i leoli ar safle Canolfan Hamdden Aberteifi.

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Rydym wedi cael rhyddhad fel Bwrdd Iechyd i fod mewn sefyllfa lle gallwn drosglwyddo rhan o un o'n hysbytai maes heb fod angen ei ddefnyddio.

“Rydyn ni mor ddiolchgar i’r cyngor, yr ysgol, Sodexo, contractwyr a’n staff ein hunain o sawl adran a wnaeth baratoi hyn ar adeg pan oedd gorfod defnyddio’r cyfleuster yn fygythiad gwirioneddol i’r GIG a’n cymunedau. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i'n cymunedau a ddilynodd gyfyngiadau'r llywodraeth ac sy'n parhau i ymarfer pellhau cymdeithasol i'n cadw'n ddiogel a chadw cyfraddau'r haint mor isel â phosibl.

“Nid ydym yn hunanfodlon ac yn annog pawb i fod yn wyliadwrus ynghylch golchi dwylo a phellter cymdeithasol.

“Pe bai unrhyw gynnydd pellach mewn achosion COVID-19 yn lleol, rydym yn hyderus y bydd ein sylfaen gwelyau yn Ysbyty Bronglais, ein hysbytai cymunedol, ynghyd â’r ysbytai maes sy’n weddill yng Nghanolfannau Hamdden Plascrug ac Aberteifi, yn ddigon i gefnogi anghenion posibl yn y dyfodol.”

Yn ystod y tair wythnos nesaf bydd contractwyr adeiladu yn brysur ar y safle i'w ddychwelyd yn ôl i'w ddefnydd fel ysgol.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans: “Rydyn ni wedi bod yn hynod falch o bawb a fu’n ymwneud â pharatoi’r cyfleuster hwn, a oedd wrth law i ddarparu capasiti ychwanegol pe bai ein GIG a’n cymunedau wedi bod ei angen. Mae hyn wedi dangos partneriaeth ar ei orau.

“Rydym yn falch o glywed y gellir adfer rhywfaint o'r gall hwn yn ddiogel i'w ddefnydd blaenorol. Byddwn yn cymryd pob mesur i sicrhau bod yr ysgol yn gallu derbyn disgyblion ac athrawon yn ddiogel ym mis Medi. ”