Neidio i'r prif gynnwy

Newid i leoliad profi COVID-19 Aberystwyth

Fel rhan o'r ymateb parhaus i bandemig COVID-19, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Ceredigion wedi parhau i weithio gyda'i gilydd i roi trefniadau ar waith a monitro'n agos i brofi pobl sy'n dangos symptomau'r firws.

Er mwyn sicrhau y gall profion barhau i ddigwydd yn ddiogel ac yn effeithiol, mae'r cyfleuster profi yn Aberystwyth yn symud o'i leoliad dros dro presennol (Canolfan Hamdden Plascrug) i Ganolfan Rheidol fel cyfleuster gyrru drwodd (trwy apwyntiad o flaen llaw) ar gyfer pobl sy'n arddangos symptomau o COVID-19. Daw'r newid hwn i rym ddydd Mercher 26 Awst 2020.

Yn ogystal, bydd cyfleuster aml-ddefnydd y tu mewn i Ganolfan Hamdden Plascrug yn cael ei ddefnyddio gan y bwrdd iechyd ar gyfer profi cleifion asymptomatig (rhywun nad oes ganddo symptomau COVID-19) sy'n dod i'r ysbyty i gael llawdriniaeth neu weithdrefn, yn ogystal â rhai profion gwrthgorff, fflebotomi, brechu a chlinig un stop ar gyfer cleifion cyn cemotherapi.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gymuned leol a’n partneriaid am helpu i amddiffyn a chefnogi ein gilydd yn ystod yr amser heriol hwn.

“Mae’r newid hwn yn rhan o ymdrechion parhaus y bwrdd iechyd a Chyngor Sir Ceredigion i sicrhau bod y trefniadau profi sydd gennym ar waith yn ddiogel ac yn briodol, yn ogystal â bod yn addas at y diben wrth inni agosáu at fisoedd y gaeaf.

“Hoffem ddiolch i bobl leol am eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad a byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i’r trefniadau newid.”

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo’r holl adnoddau sydd ar gael i’r bartneriaeth mewn ymgais i sicrhau y gall dinasyddion Ceredigion gael gafael ar yr holl gymorth cysylltiedig â Covid-19 yn lleol. Bydd y cyfleusterau hyn yn darparu’r un lefel o ddarpariaeth a chefnogaeth ag unrhyw ranbarth arall yng Nghymru.”

Anogir pobl i aros yn wyliadwrus ac i beidio â llacio'r mesurau sydd eisoes ar waith, megis cynnal pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, i'n helpu i fyw a gweithio ochr yn ochr â'r firws wrth gynnwys ei ledaeniad.

Gall unrhyw un sydd â symptomau’r firws (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli / newid blas neu arogl) archebu prawf ar-lein yn www.gov.wales/coronavirus neu trwy ffonio’r rhadffôn 119 (rhwng 7 am-11pm) . Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Gall gweithwyr critigol, fel y rhai ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, yr heddlu, tân, addysg, bwyd, manwerthu, trafnidiaeth, gwasanaethau cyhoeddus, a gofalwyr di-dâl, archebu prawf os oes ganddynt symptomau trwy gysylltu â'r tîm Ymholiadau Covid lleol yn uniongyrchol ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio CovidEnquiries.hdd@wales.nhs.uk (nodwch fod hyn ar gyfer gweithwyr critigol yn unig, nid aelodau o'r cyhoedd).

Peidiwch â mynychu heb wneud apwyntiad yn gyntaf gan na fydd yn bosibl eich lletya heb apwyntiad.

Ochr yn ochr â'r trefniadau profi, mae'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu GIG Cymru bellach yn mynd rhagddo ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i olrhain y firws a bydd yn diogelu ein cymunedau ymhellach. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phob un o'r tri awdurdod lleol yn gweithio'n eithriadol o galed gyda'i gilydd i helpu ein cymunedau lleol i barhau i fyw a gweithio gyda'r firws tra'n gwarchod ei ledaeniad.

Gellir cysylltu ag unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19 wedi'i gadarnhau fel rhan o hyn a gofyn iddynt hunan-ynysu am hyd at 14 diwrnod, a gofyn am brawf os ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau o'r firws. Bydd cynghorydd cyswllt yn cysylltu â'r unigolyn i ddarparu cyngor a chefnogaeth.

Atgoffir aelodau'r cyhoedd bod gwybodaeth a chyngor swyddogol am coronafirws ar gael o https://phw.nhs.wales/coronavirus

Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi symptomau COVID-19 ac na allwch chi ymdopi gartref neu os yw'ch cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl saith diwrnod, defnyddiwch y gwasanaeth 111 coronafirws ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999.