Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan Fforwm Gwydnwch Lleol Dyfed Powys

Mae’r partneriaid sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys, eisiau talu teyrnged a diolch o waelod calon i’n cymunedau a’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth dros benwythnos y Pasg drwy wrando ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth i aros adref, sydd, yn ei dro, yn amddiffyn y GIG ac yn arbed bywydau.

Gwyddom mor galed ydoedd, a gwyddom am yr ebyrth a wnaethpwyd gan bawb, yn enwedig â’r tywydd mor braf – ond y peth pwysicaf y gall pawb ohonom wneud ar hyn o bryd er mwyn atal yr haint rhag lledaenu yw aros gartref, a dyna a wnaeth y rhan fwyaf ohonoch.

Fel arfer, yr adeg hon o’r flwyddyn, rydyn ni’n gweld mewnlifiad o ymwelwyr i’n llecynnau hardd a’n hatyniadau twristiaeth niferus – sy’n cynnwys y bobl hynny sy’n byw yn yr ardal yn ogystal â’r rhai sy’n byw mewn mannau eraill. Ond yr oedd hi’n amlwg bod nifer yr ymwelwyr â’r mathau hyn o leoliadau yn llai o lawer na’r hyn y byddem fel arfer yn eu disgwyl. Roedd nifer y bobl a oedd allan yn crwydro dros y penwythnos yn fach iawn. Dangosodd hyn fod y rhan fwyaf o’r cyhoedd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd ac yn addasu i’r byd newydd sydd ohoni – felly diolch yn fawr iawn.  

Nid ydym yn tanwerthfawrogi mor anghyffredin ac anodd yw’r ffordd newydd hon o fyw, ond mae’n rhaid i bawb yng Nghymru gydymffurfio â’r mesurau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Rhoddwyd pwerau i’r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol i’w gorfodi – gan gynnwys gwasgaru cynulliadau a chyflwyno dirwyon. Yn anffodus, torrwyd y cyfyngiadau gan leiafrif bach, a chyflwynwyd 123 dirwy gan yr heddlu i’r rhai a oedd yn torri’r ddeddfwriaeth yn fwriadol. Ond trwy Ymgyrch Dovecote Heddlu Dyfed-Powys, darparasant bresenoldeb amlwg ar ein ffyrdd yn ystod y penwythnos, a gwirio symudiadau pobl er mwyn tawelu meddyliau ein cymunedau a’r mwyafrif helaeth a gydymffurfiodd, gan fod hyn yn achosi pryder difrifol yn ystod yr argyfwng iechyd hwn.  

Mae asiantaethau Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys wedi cymryd ymagwedd gydlynol amlasiantaeth tuag at yr argyfwng, ac maent yn cydweithio er mwyn gwasanaethu er lles ein cymunedau. Mae’n galonogol ac yn ddymunol iawn gweld ein gweithwyr allweddol, ein gwirfoddolwyr a’n cymunedau’n ymateb i’r her hon – a dylai pawb ohonom fod yn falch o’r ymateb hwn.

Mae angen yn awr inni barhau â’r gwaith da, ac mae’n bwysig ein bod i gyd yn dal ati i ddilyn y mesurau hyn a hyrwyddo’r neges fod teithio ond yn cael ei ganiatáu yn unol â’r meini prawf llym a nodir yn y ddeddfwriaeth newydd ar hyn o bryd. Bydd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys yn parhau i weithio gyda’n cymunedau er mwyn llywio’n ffordd drwy’r cyfnod anodd hwn. 

Diolch, ar ran Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys:

Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore

Prif Weithredwr Bwrdd Addysgu Iechyd Powys, Carol Shillabeer

Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Jason Killens

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dyfed-Powys, Peter Roderick

Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Wendy Walters

Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans

Prif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Ian Westley

Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner

Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Chris Davies QFSM