26 Medi 2024
Heddiw (dydd Iau 26 Medi 2024), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo cynnig ar gyfer model gofal iechyd cymunedol yng ngogledd Ceredigion, yn dilyn ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd.
Mae hyn yn golygu amnewid pob un (naw) o welyau cleifion mewnol yn Ysbyty Cymunedol Tregaron, gyda gofal iechyd a chymorth ychwanegol yng nghartrefi pobl neu’n agos atynt yng ngogledd y sir.
Bydd y cynnig ar gyfer model gofal newydd, sy’n rhan o brosiect ehangach Cylch Caron ac yn unol â gweledigaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru iachach, yn gweld symud gofal cleifion mewnol o’r ysbyty i gartrefi pobl eu hunain. Wedi’i alluogi drwy fodel cymorth gwahanol, bydd hyn yn gweld staff yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, yn canolbwyntio ar gadw pobl yn iach gartref, a gyda mwy o staff ar gael i helpu pobl yn y gymuned.
Nod y Bwrdd Iechyd yw darparu gwasanaeth mwy diogel a chynaliadwy ar draws Ceredigion, wrth wella’r gofal a’r ddarpariaeth i gleifion. Bydd yn gwella cymorth yn y gymuned a helpu i atal pobl rhag bod mewn gwelyau ysbyty ac mewn perygl o ddirywio pan fyddant yn feddygol ffit i fod yn amgylchedd eu cartref. Bydd hefyd yn gwella'r gwasanaeth cymorth nyrsio gofal lliniarol a gynigir ar hyn o bryd ledled Ceredigion
Fel rhan o brosiect Cylch Caron, bydd canolfan adnoddau integredig yn cael ei datblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru, gan ddod ag ystod o wasanaethau gofal, iechyd a thai at ei gilydd ar gyfer y dyfodol mewn canolfan ganolog ar gyfer Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae’r model gofal iechyd cymunedol, sy’n seiliedig ar gyngor clinigol ac sydd eisoes yn gweithredu’n llwyddiannus yn ne Ceredigion, yn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i gleifion trwy gydweithio’n well ar draws ein gwasanaethau gofal iechyd a chymorth.
Bydd yn galluogi gwasanaeth nyrsio cymunedol mwy medrus, uwch a gwell, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, meddygon teulu, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yr awdurdod lleol, a phartneriaid statudol a gwirfoddol.
Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion y bwrdd iechyd: “Rydym wedi gwrando ar straeon pobl ac yn cydnabod yr ymlyniad dealladwy a rennir ag Ysbyty Cymunedol Tregaron.
Rydyn ni eisiau gwneud y peth iawn i’n cleifion a’n staff sy’n gofalu amdanyn nhw, ac nid yw hyn bob amser yn ôl y model traddodiadol o ddarparu gofal mewn gwely ysbyty.”
Parhaodd Peter i ddweud: “Mae cleifion wedi dweud wrthym y byddai’n well ganddynt gael gofal yn y cartref lle mae hyn yn briodol a, thrwy ddarparu gofal yn y modd hwn, gallwn gefnogi hyd at 40 o bobl i gynnal eu hannibyniaeth, eu hiechyd a’u llesiant cyhyd ag y bo modd, o gymharu â naw claf mewnol mewn gwelyau ysbyty.
“Mae Ysbyty Tregaron wedi bod yn rhan o’n cymuned leol ers nifer o flynyddoedd. Wrth i ni ddatblygu gweledigaeth ehangach Cylch Caron, bydd yr ysbyty yn parhau i ddarparu canolfan ar gyfer ein staff cymunedol a chyfleuster ar gyfer gwasanaethau cleifion allanol.”
Er y mynegwyd pryder ynghylch darparu gofal cleifion mewnol yn ystod y cyfnod ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r bwrdd iechyd yn rhoi sicrwydd i bobl y byddai hyn yn cael ei ddarparu'n fwy priodol o ysbytai acíwt neu ofal yn y gymuned yn dibynnu ar ddifrifoldeb salwch claf.
Drwy fabwysiadu’r dull hwn yn awr, gall y bwrdd iechyd gryfhau ei wytnwch cyn misoedd y gaeaf pan fydd gwasanaethau a staff yn wynebu pwysau sylweddol, gan osgoi sefyllfa o gael eu gorfodi i gau gwelyau heb rybudd.
Bydd derbyniadau cleifion mewnol pellach i Ysbyty Cymunedol Tregaron yn dod i ben ar unwaith. Bydd cleifion mewnol presennol yn dilyn y llwybr rhyddhau arferol, gan alluogi gostyngiad graddol yn nifer y gwelyau ac atal cleifion rhag cael eu trosglwyddo i ysbytai eraill. Cânt eu cefnogi drwy'r model gofal iechyd cymunedol.
Mae’r model gofal hwn eisoes wedi’i gyflawni yn ne Ceredigion a bydd y bwrdd iechyd nawr yn ymestyn hyn i gymunedau yng ngogledd y sir gan sicrhau gwasanaeth mwy diogel, mwy cynaliadwy a theg ar draws Ceredigion.