Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfeydd teulu Ceredigion yn dod ynghyd i annog cleifion i gael eu brechiad rhag y ffliw

Mae meddygfeydd teulu yng Ngheredigion wedi dod ynghyd i gynhyrchu fideo byr fel y gall cleifion wybod beth i'w ddisgwyl mewn apwyntiad brechu rhag y ffliw a'r mesurau a roddwyd ar waith i gadw pawb yn ddiogel.

Dywedodd Michelle Dunning, Rheolwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae llawer o waith cynllunio wedi bod eleni, i sicrhau bod clinigau brechu rhag y ffliw yn ddiogel i staff a chleifion.

“Rydyn ni’n gobeithio bod y fideo hon yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i unrhyw un a allai fod yn nerfus ynglŷn â mynychu eu hapwyntiad ar adeg pan mae’n bwysicach nag erioed amddiffyn eich hun â brechiad ffliw os ydych chi mewn mwy o berygl o gymhlethdodau ffliw.”

Dywedodd Dr Heather Cox, Meddyg Teulu ym Meddygfa’r Llan yn Aberystwyth: “Rydym yn deall y gallai rhai pobl fod yn nerfus ynghylch ymweld â meddygfa i gael eu brechlyn.

“Mae'r fideo hon yn dangos sut rydyn ni wedi cynllunio i gael pobl trwy ein hadeiladau mor gyflym ac effeithiol â phosib, a gobeithio ei fod yn helpu ein cleifion i deimlo'n ddiogel.”

Mae meddygfeydd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi gwneud newidiadau i'r ffordd y mae'r brechlyn ffliw yn cael ei ddarparu i gadw pawb yn ddiogel. Bydd eich meddyg teulu yn eich hysbysu beth sydd angen i chi ei wybod wrth drefnu apwyntiad.

P'un a yw'ch meddygfa'n darparu'r brechlyn yn y feddygfa, mewn lleoliad cymunedol neu wrth yrru drwodd, gwnewch yn siŵr eich bod:

• Dim ond yn mynychu os ydych chi'n teimlo'n dda. Os ydych chi'n teimlo'n sâl o gwbl ar ddiwrnod eich apwyntiad, peidiwch â dod.

• Yn trefnu apwyntiad ac yn cyrraedd mor agos â phosibl at amser yr apwyntiad hwnnw. Os byddwch chi’n cyrraedd heb apwyntiad, ni fyddwn yn gallu eich gweld.

• Yn ddelfrydol, mynychwch ar eich pen eich hun a chyda'r lleiafswm o fagiau a chotiau.

• Rhowch orchudd wyneb arno sy'n ffitio'n dda a byddai hefyd yn ein helpu os oes gennych chi dillad gyda llewys byr

• Gadewch i'r staff wirio'ch tymheredd a glanweithio'ch dwylo.

Gall y ffliw fod yn wirioneddol ddifrifol. Gwiriwch os ydych chi’n gymwys i gael brechlyn am ddim a gwnewch apwyntiad www.beatflu.org

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Cymru’n ddiogel #CurwchFfliw