Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Dewi Sant i ddychwelyd cytundeb

22 Ebrill 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio â Meddygfa Dewi Sant yng Ngogledd Sir Benfro i sicrhau y bydd gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal yn dilyn penderfyniad y Feddygfa i roi'r gorau i'w chytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Gwnaethpwyd y penderfyniad gan y partner meddyg teulu i roi’r gorau i’r gytundeb gyda'r bwrdd iechyd.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Hywel Dda: “Hoffem roi sicrwydd i gleifion Meddygfa Dewi Sant y bydd y gwasanaethau pwysig hyn yn parhau i gael eu darparu i gleifion.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda Meddygfa Dewi Sant a’r Clwstwr ehangach i ddod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau gwasanaethau i gleifion.”

Ar gyfer cleifion cofrestredig mae hyn yn golygu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un tîm yn y Practis tan ddiwedd mis Hydref 2024. Cynghorir cleifion i barhau i gofrestru gyda'r Practis tra bod cynlluniau tymor hwy yn cael eu datblygu.

Bydd y bwrdd iechyd yn ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant i roi gwybod iddynt am y sefyllfa.

Yn y cyfamser, bydd cleifion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar sut y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn ar ôl diwedd mis Hydref.

Parhaodd Ms Paterson: “Bydd barn y gymuned leol a chleifion yn cael ei chasglu cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ynglŷn â darpariaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth. Bydd cyfleoedd i siarad â’r bwrdd iechyd yn uniongyrchol mewn digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd a bydd mwy o fanylion yn dilyn.”

“Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i weithio’n agos gyda’r Gweithgor a sefydlwyd y llynedd, y mae ei aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr cymunedol o Dyddewi a Solfach, a hefyd Llais i sicrhau bod safonau uchel y gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gleifion y feddygfa hon.

“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Meddygfa Dewi Sant trwy gydol y cyfnod heriol hwn.”

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0300 303 8322 (opsiwn 5) neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk   

DIWEDD