Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gefnogaeth wrth i gartref nyrsio gau

Arwydd gwybodaeth

Yn anffodus, mae Ashberry Healthcare wedi cyhoeddi y bydd angen iddo gau Cartref Nyrsio Bridell Manor ger Aberteifi. Daw hyn yn dilyn cyfnod hir o anhawster mewn recriwtio staff nyrsio a gofal cymwys oherwydd prinder cenedlaethol, sy’n fwy o her mewn ardaloedd gwledig iawn.

Dywedodd llefarydd ar ran Cartref Nyrsio Bridell Manor: “Fel darparwr gofal cyfrifol, rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd i gynaliadwyedd pob un o’n cartrefi gofal er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal o safon uchel gyda’r nifer briodol o staff hyfforddedig.

“Mae Bridell Manor wedi wynebu heriau recriwtio hir-dymor sy’n golygu na allwn staffio’r cartref i’r lefelau priodol. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i ddenu gofalwyr a staff nyrsio cymwys i’r cartref, nid ydym wedi medru goresgyn yr her hon. O ganlyniad, ac er diogelwch pob preswylydd yn y cartref, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau Cartref Nyrsio Bridell Manor.

“Rydym yn ceisio cadw nifer o’n aelodau staff ymroddedig i weithio yn ein cartrefi eraill sydd gerllaw, a byddant yn cael cefnogaeth lawn ein tîm Adnoddau Dymol trwy gydol y broses.

“Deallwn y bydd hyn yn newyddion anodd i bawb yn Bridell Manor. Rydym yn cyd-weithio’n agos â’r awdurdodau perthnasol i gefnogi’r preswylwyr ar hyd y broses gau a’u helpu i ddod o hyd i gartref gofal newydd lle y byddant yn hapus”.

Mae tua 20 o breswylwyr yn cael gofal nyrsio yn y cartref yn cynnwys rhai ag anghenion gofal dementia.

Bydd awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio’n agos â’r cartref gofal, y preswylwyr a’u teuluoedd i ddod o hyd i ofal a lleoliadau addas arall.

Cysylltwyd yn uniongyrchol â’r rhai yr effeithir arnynt a chant eu cefnogi trwy’r broses hon.

Nid oes dyddiad cau wedi’i gyhoeddi eto, ond bydd y gwaith o sicrhau gofal a lleoliadau eraill yn dechrau ar unwaith.