Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddyfodol gwasanaethau Meddygon Teulu yn Cross Hands a'r Tymbl wedi dechrau

27 Hydref 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi cychwyn ar y broses ymgysylltu â’r cyhoedd a fydd yn pennu dyfodol hirdymor gwasanaethau Meddygon Teulu i gleifion Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl.

Mae’r cynnig gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn ymddiswyddiad o’u cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gan Bartneriaid Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, a ddaeth i rym ddiwedd mis Mawrth 2024.

Mae nifer o ffyrdd y gall cleifion cofrestredig ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau, gan gynnwys digwyddiad galw heibio yn Neuadd Bentref y Tymbl ddydd Mercher 8 Tachwedd 2023 lle bydd staff o dîm Gofal Sylfaenol y Bwrdd Iechyd ar gael i gael sgwrs rhwng 2pm a 7pm.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Partneriaid wedi ceisio’n aflwyddiannus i recriwtio Meddyg Teulu neu Uwch Ymarferydd ychwanegol i ymuno â’u practis prysur, ond nid ydynt wedi gallu gwneud hynny.

“Yn anffodus, maen nhw wedi penderfynu mai ymddiswyddiad eu cytundeb GMS yw eu hunig opsiwn sydd ar ôl.

“Ers cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw, mae fy nhîm wedi bod yn gweithio gyda’r Practis, aelodau o Glwstwr Meddygon Teulu Aman a Gwendraeth, Llais a rhanddeiliaid allweddol eraill, i adnabod opsiynau ar gyfer dyfodol gwasanaethau Meddygon Teulu ar gyfer y 7,500 o gleifion cofrestredig.

“Mae panel gyda chynrychiolaeth o Llais a’r Pwyllgor Meddygol Lleol wedi nodi dau opsiwn ymarferol i barhau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i’r Gymuned leol ac rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu’r opsiynau hyn. Naill ai bydd y cytundeb yn cael ei ail-dendro i ddod o hyd i Ddarparwr arall, neu bydd y rhestr cleifion yn cael ei hailddosbarthu ymhlith practisau meddygon teulu cyfagos gan y Bwrdd Iechyd.

“Cyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad terfynol, mae angen i’r Bwrdd Iechyd wrando ar farn a phryderon cleifion. Bydd y broses hon yn dechrau rhwng 30 Hydref a 26 Tachwedd 2023 ac rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o gleifion â phosibl.”

Gall aelodau’r cyhoedd ddweud eu dweud drwy:

  • Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd Mercher 8 Tachwedd 2023, rhwng 2 a 7pm (galw heibio unrhyw bryd) yn Neuadd Bentref y Tymbl (Heol Y Neuadd, Y Tymbl, SA14 6HR)
  • Cwblhau holiadur: mae blychau casglu ar gyfer holiaduron ar gael ym Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl. Gall cleifion hefyd eu dychwelyd trwy bostio i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
  • Ffonio 0300 303 8322 a dewis opsiwn 5 ar gyfer ‘gwasanaethau eraill’.
  • E-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Ymateb i'r holiadur ar-lein a gynhaliwyd ar wefan Dweud eich Dweud/Have your Say Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk
  • Darparu adborth yn uniongyrchol i Llais yn Swît 5, Llawr 1af, Tŷ Myrddin, Heol Hen Orsaf, Caerfyrddin SA31 1LP, ffoniwch 01646 697610 neu e-bostiwch westwalesenquiries@llaiscymru.org

Mae Llais, sefydliad llais y claf Cymru yn cefnogi’r broses ymgysylltu a bydd yn bresennol yn y digwyddiad cyhoeddus, ochr yn ochr ag aelodau o dîm Gofal Sylfaenol Hywel Dda ac aelodau o Glwstwr Meddygon Teulu Aman a Gwendraeth.