Neidio i'r prif gynnwy

Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn annog cydweithwyr i ymuno â sialens

Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn annog cydweithwyr i ymuno â sialens

17 Mawrth 2023

Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Caerfyrddin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog eu cydweithwyr yn y GIG i wisgo eu hesgidiau rhedeg er mwyn helpu i wella eu hiechyd a’u lles.

Mae Steve Plumb, Ymarferydd Arbenigol mewn Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion wedi bod yn cydlynu rhediadau tîm ar ôl gwaith yng Nghaerfyrddin ac mae’r tîm bellach wedi cwblhau cynllun hyfforddi wyth wythnos NHS Couch to 5K ac yn cymryd rhan yn rheolaidd yn nigwyddiad Parkrun Llanelli.

Gall cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd fel sialens Couch to 5k ddod â nifer o fanteision i iechyd corfforol a meddyliol.

Yn ogystal, mae bod yn yr awyr agored a chymryd sylw o’r byd o’n cwmpas yn cyfrannu at ein pum ffordd at les (yn agor dolen newydd) , y fersiwn lles o’r 'pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd'.

Argymhellir bod pobl yn adeiladu’r Pum Ffordd yn eu bywyd bob dydd i wella eu llesiant trwy gysylltu â phobl, bod yn egnïol, cymryd sylw o’r byd o’n cwmpas, dysgu parhaus a rhoi.

Meddai Steve Plumb: “Fe benderfynon ni ymgymryd â’r sialens hon oherwydd y manteision corfforol a meddyliol i ni fel unigolion ac i ymgysylltu â’n gilydd fel tîm.

“Gall cymryd rhan mewn sialens fel NHS Couch to 5K helpu unrhyw un i gymryd agwedd raddol wrth adeiladu ffitrwydd yn raddol dros amser.

“Mae’n wych bod aelodau o wahanol broffesiynau o fewn y tîm iechyd meddwl yn cymryd rhan yn y sialens hon gan gynnwys nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, meddygon, a staff gweinyddol ac rydym yn annog timau eraill yn gryf i feddwl am wneud rhywbeth tebyg i helpu a chefnogi ei gilydd ar eu ffitrwydd a thaith lles.”

Gellir lawrlwytho ap NHS Couch to 5K yma o'r Google Play Store ac yma ar gyfer Apple App Store.