Neidio i'r prif gynnwy

Mae salwch anadlol ar gynnydd. Amddiffynwch eich hun ac anwyliaid gyda brechlyn y gaeaf hwn

22 Rhagfyr 2023

Mae pobl sy'n gymwys i dderbyn brechlynnau salwch anadlol y gaeaf yn cael eu hannog i ddod ymlaen i gael eu brechu i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn cyn dychwelyd i'r ysgol a gweithio yn y Flwyddyn Newydd. Mae nifer yr achosion o'r ffliw ar gynnydd ar draws Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi cadarnhau y bydd ei ganolfannau brechu ar agor ar ôl y Nadolig o ddydd Mercher 27 Rhagfyr a thrwy gydol mis Ionawr i'w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl amddiffyn eu hunain.

Gall y ffliw fod yn salwch difrifol ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithredu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae'n arbennig o bwysig bod pobl â chyflyrau cronig sylfaenol yn cael eu brechu gan ei fod yn eu hamddiffyn rhag cael salwch difrifol. Mae hefyd yn bwysig bod plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn ffliw trwynol. Y ffliw oedd y prif reswm dros bron i 800 o blant 2-16 oed gael eu derbyn i'r ysbyty ledled Cymru.

Gall cymhlethdodau o'r ffliw gynnwys broncitis, niwmonia a heintiau ar y glust. Mae'r brechlyn yn lleihau'r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn mynd yn sâl iawn ac yn helpu i leihau lledaenu'r ffliw i ffrindiau a theulu sydd â risg uchel, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.

Gall rhieni ddarganfod mwy am y brechlyn ffliw trwynol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn  phw.nhs.wales/vaccines

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Yr wythnos hon, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data sy'n dangos achosion o'r ffliw a gofnodwyd fwy na dyblu yn ystod y tair wythnos ddiwethaf.

"Mae'r data diweddaraf yn dangos cynnydd sylweddol mewn profion ffliw positif yng Nghymru, gan godi o 2.4% yn yr wythnos a ddaeth i ben 27 Tachwedd i 4.4% yn yr wythnos hyd at 11 Rhagfyr.

"Mae adroddiadau hefyd yn dangos bod canran y galwadau sy'n gysylltiedig â'r ffliw i GIG 111 Cymru wedi cynyddu i 21.2%, i fyny o 18.7% yr wythnos flaenorol. 

"Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 neu'r ffliw yn cael eu lleihau'n fawr trwy frechu, yn ogystal â'r risgiau o ledaenu'r firysau hyn.

“Os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw neu frechlyn COVID-19, mae'n golygu eich bod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o'r salwch hyn, neu rydych yn byw gyda rhywun agored i niwed neu'n gofalu amdano. Nid yw'n rhy hwyr i ddod ymlaen i gael eich brechu. Fel hyn, byddwch yn amddiffyn eich hun ac yn sicrhau eich bod chi a'ch anwyliaid yn cael yr amddiffyniad y mae'r brechlynnau'n ei gynnig cyn dychwelyd i'r ysgol neu weithio yn y Flwyddyn Newydd."

Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. Gyda'r ffliw a Covid-19 yn cylchredeg y gaeaf hwn, mae'n hanfodol bod pawb sy'n gymwys yn cael y ddau frechlyn cyn gynted â phosibl.

Ni fu erioed yn haws cael eich diogelu rhag salwch anadlol cyffredin yn y gaeaf gyda chlinigau galw heibio yn parhau ar ôl y Nadolig a thrwy gydol mis Ionawr yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gall pobl sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw sy'n 18 oed neu'n hŷn alw heibio i ganolfan frechu, nid oes angen apwyntiad. Gofynnir i unrhyw un o dan 18 oed sydd angen brechlyn ffliw gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu anfon e-bost ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu eu brechlyn.

Gall pobl sy'n gymwys i gael brechlyn COVID-19 sy'n 12 oed neu'n hŷn alw heibio, nid oes angen apwyntiad, ond os oes angen i chi drefnu brechlyn COVID-19 i rywun dan 12 oed, cysylltwch â'r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.

Amseroedd agor galw heibio'r ganolfan frechu:

  • Cwm Cou (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9.30am i 5.30pm, Dydd Mercher 27 i Dydd Gwener 29 Rhagfyr. O’r 2 Ionawr, mae’r ganolfan ar agor 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Gwener
     
  • Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9.30am i 5.30pm Dydd Mercher 27 i Dydd Gwener 29 Rhagfyr. O’r 2 Ionawr, mae’r ganolfan ar agor 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Iau.
     
  • Neyland (Uned 1 Parc Diwydiannol Honeyborough, SA73 1SE) – 9.30am i 5.30pm, Dydd Mercher 27 i Dydd Gwener 29 Rhagfyr. O’r 2 Ionawr, mae’r ganolfan ar agor 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Gwener
     
  • Caerfyrddin (Clwb Criced Wanderers, Caeau’r Drindod, Johnstown, SA31 3NE) – 10am i 5pm pob dydd Gwener yn dechrau ar 5 Ionawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu os ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i'ch cynghori.