Neidio i'r prif gynnwy

Mae Hwb Celfyddydol yn dychwelyd ar gyfer 2024 i gefnogi plant a phobl ifanc

1 Mawrth 2024

Mae Hwb Celfyddydol, rhaglen arobryn sydd wedi’i dylunio i leihau teimladau o drallod a gwella iechyd meddwl drwy’r celfyddydau, yn dychwelyd yn 2024 ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n hysbys i Wasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP).

Lansiwyd Hwb Celfyddydol yn 2022 mewn ymateb i’r niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc sy’n ceisio cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl gan S-CAMHS.

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda thri phartner celfyddydol, Celfyddydau Span yn Sir Benfro, People Speak Up yn Sir Gaerfyrddin, a Theatr Byd Bach yng Ngheredigion i gyflwyno gweithgaredd cyfryngau cymysg creadigol dan arweiniad artistiaid o’r enw ‘Creative Freestyling’.

Mae’r rhaglen ar gael i blant a phobl ifanc sy’n hysbys i S-CAMHS BIP Hywel Dda rhwng 12 a 17 oed ag anawsterau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Dywedodd Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIP Hywel Dda: “Mae’n wych gweld Hwb Celfyddydol yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn. Dros y ddwy raglen ddiwethaf rydym wedi canfod bod ymgysylltu â gweithgareddau creadigol a arweinir gan artistiaid wedi helpu plant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan i wella eu lles a lleihau teimladau o drallod a datblygu sgiliau ymdopi creadigol am oes.

“Mae gweithgareddau a ddarperir gyda’n partneriaid celf yn helpu i greu gofod diogel i ganiatáu adferiad, hybu gwydnwch a sgiliau ymdopi a chynyddu ymdeimlad o rymuso.

“Os ydych chi neu’ch plentyn yn hysbys i’n Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed, mae ein rhaglen Hwb Celfyddydol ar gael i chi. I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, gallwch siarad â’ch clinigwr iechyd meddwl sylfaenol presennol neu gysylltu â’n harweinydd ar gyfer therapïau seicolegol SCAMHS, Katie O’Shea ar 01267 674450.”

Mae Hwb Celfyddydol yn seiliedig ar y corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod gan y celfyddydau ran allweddol i’w chwarae mewn gofal iechyd, yn enwedig o ran gwella lles, hunanhyder, hunan-barch a hunanfynegiant ac mae’n rhan o raglen genedlaethol Celfyddyd a Chrebwyll, a ariennir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru.