Neidio i'r prif gynnwy

Mae cymorth am ddim ar gael i'ch helpu i roi'r gorau iddi ar y Diwrnod Dim Smygu hwn

13 Mawrth 2024

Ar 40 mlynedd ers Diwrnod Dim Smygu yng Nghymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn atgoffa ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi y gall cymorth am ddim gan y GIG gynyddu eich siawns o lwyddo hyd at 300% o’i gymharu â mynd ar ei ben ei hun.

Mae dydd Mercher 13 Mawrth yn Ddiwrnod Dim Smygu ac ers 1984, mae cyfraddau ysmygu ymhlith oedolion Cymru wedi gostwng o 33% i 13%, sy’n golygu bod cannoedd o filoedd o bobl yn byw bywydau iachach gyda llawer llai o risg o ganser a salwch eraill sy'n newid bywyd ac sy'n bygwth bywyd.

Dim ond 48 awr ar ôl rhoi’r gorau i ysmygu, nid oes carbon monocsid na nicotin ar ôl yn eich corff ac mae’r gallu i flasu ac arogli wedi gwella’n fawr.

Ar ôl blwyddyn mae eich risg o drawiad ar y galon yn disgyn i tua hanner y risg i ysmygwr ac ar ôl 10 mlynedd mae'r risg o gael canser yr ysgyfaint yn disgyn i tua hanner y risg i ysmygwr.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Eleni ar Ddiwrnod Dim Smygu rydym yn myfyrio ar y niwed y mae ysmygu’n dal i’w achosi i’r rhai sy’n parhau i ysmygu a’r rhai o’u cwmpas.

“Rydym yn gweithio i wneud Hywel Dda yn ddi-fwg erbyn 2030 a dyma’r unig ardal yng Nghymru i gyrraedd y targedau cenedlaethol o drin 5% o ysmygwyr bob blwyddyn.

“Rhwng Mawrth 2022 ac Ebrill 2023, fe wnaeth ein tîm ysmygu a lles drin 1,951 o gleientiaid. Cysylltwch â’r tîm heddiw i ddarganfod pa gefnogaeth am ddim sydd ar gael i chi i’ch helpu i fyw’n ddi-fwg.”

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac yr hoffech wybod mwy am y cymorth am ddim sydd ar gael i chi i roi'r gorau i ysmygu, cysylltwch â  Thîm Ysmygu a Lles BIP Hywel Dda drwy ffonio 0300 303 9652, e-bostio smokers.clinic@wales.nhs.uk neu drwy gwblhau ffurflen atgyfeirio ar-lein https://forms.office.com/r/XSXUggsk3b.