Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIP Hywel Dda yn annog brechu oherwydd disgwylir i'r ffliw fod yn broblem fawr i iechyd cyhoeddus yng Nghymru y gaeaf hwn

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn disgwyl tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae pryderon y gallai ddechrau yn gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl. O ganlyniad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn annog unrhyw un sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig, er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

Yn ogystal, mae rhaglen atgyfnerthu’r hydref Covid-19 bellach yn fyw ac mae llawer o bobl gan gynnwys pawb dros 50 oed, a’r rhai sydd mewn perygl o glefyd difrifol ymhlith y rhai sy’n cael cynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu’r hydref COVID-19, arhoswch i gael gwahoddiad naill ai gan eich meddyg teulu neu'r bwrdd iechyd. Bydd pawb sy'n gymwys yn cael cynnig apwyntiad erbyn mis Tachwedd.

Mae practisau meddygon teulu hefyd yn paratoi i wahodd cleifion cymwys ar gyfer eu brechlyn ffliw tymhorol a'u nod yw cynnig apwyntiad i bawb sy'n gymwys erbyn mis Rhagfyr. Eto, peidiwch â chysylltu â’ch practis meddyg teulu ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich gwahodd pan ddaw eich tro.

Mae achosion o ffliw eisoes yn cael eu canfod yng Nghymru. Mae gwyddonwyr iechyd cyhoeddus yn dweud y gallai tymor y ffliw fod mor ddifrifol â’r achosion o ffliw yn 2017/18, lle cafodd 16.5 mil o bobl yng Nghymru ddiagnosis o’r ffliw gan eu meddyg teulu, a 2,500 o bobl yn yr ysbyty. Roedd yna hefyd lefel uchel o farwolaethau gormodol tymhorol y flwyddyn honno – y gwaethaf ers tua 20 mlynedd.

Ers mis Mawrth 2020, mae cyfyngiadau symud Covid-19 a chyfyngiadau teithio rhyngwladol wedi amharu ar faint o firysau anadlol sydd mewn cylchrediad, ond wrth i'n bywydau fynd yn ôl i normal, mae niferoedd uwch o feirysau'n dychwelyd. Eleni, profodd Awstralia dymor ffliw a oedd yn gynharach nag arfer a gwelwyd y lefelau achosion uchaf mewn pum mlynedd. Mae’n bosibl y bydd y DU – a Chymru – yn profi gweithgarwch ffliw tebyg.

Gyda Covid-19 hefyd mewn cylchrediad, a phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu i helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol wael a diogelu'r GIG y gaeaf hwn.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Firws y ffliw sy’n achosi’r ffliw. Gall fod yn salwch annymunol iawn a hefyd arwain at broblemau difrifol, fel broncitis a niwmonia.

“Mae’r pandemig wedi ein gwneud ni’n llawer mwy ymwybodol bod brechu yn achub bywydau ac yn lleihau derbyniadau i’r ysbyty. Efallai na fydd brechu yn eich atal rhag dal y ffliw neu COVID-19, ond mae’n ei gwneud yn llawer llai tebygol y byddwch yn ddifrifol wael neu angen mynd i’r ysbyty.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn annog pawb i gael eu brechiad y gaeaf hwn, pan fydd ffliw a COVID ar eu hanterth, er mwyn amddiffyn eu hunain, y rhai o’u cwmpas a’r GIG yn ystod yr hyn a fydd yn amser prysur i ofal iechyd yng Nghymru.”

I hyrwyddo'r brechiadau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n annog y rhai sy'n gymwys i ‘ailwefru’ eich amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol y gaeaf hwn drwy gael y brechlynnau ffliw a Covid-19. Mae'r ymgyrch yn lansio ar 27 Medi gyda chynnwys digidol a chymdeithasol yn ogystal ag estyn allan i randdeiliaid a hysbysebion radio.

Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i gymhlethdodau o ganlyniad i'r heintiau. Mae hefyd yn bwysig iawn bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu'n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain yn cael eu brechlynnau i helpu i leihau lledaeniad.

Er mwyn helpu i atal y ffliw a firysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa’

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau, ewch i Brechlyn ffliw a phigiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19 (agor mewn dolen newydd)

Diwedd

Nodiadau’r Golygydd

Mae data Imiwneiddio diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yma: Goruchwyliaeth imiwneiddio (agor mewn dolen newydd)

Pwy sy'n gymwys i gael y brechlynnau ffliw a COVID-19 yng Nghymru yn ystod Hydref/Gaeaf 2022-2023?

Mae’r tabl a’r wybodaeth isod yn rhoi crynodeb o bwy all gael y brechlyn ffliw a’r brechlyn COVID-19 yr hydref a’r gaeaf hwn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: Cymhwystra'r brechlyn ffliw (agor mewn dolen newydd) neu Cymhwystra'r brechlyn COVID-19 (agor mewn dolen newydd).

 

Brechlyn ffliw

Brechlyn COVID-19

Menywod beichiog

Ie

Ie

Pobl 50 oed neu hŷn

Ie

Ie

Pobl â chyflwr iechyd hirdymor sy'n cynyddu'r risg

 O 6 mis oed

Ie

O 5 mlwydd oed

Ie

Pobl sy'n byw mewn cartref gofal

Ie

Ie

Pobl ag anabledd dysgu

Ie

Ie

Pobl â salwch meddwl difrifol

Ie

Ie

Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

O 6 mis oed

Ie

O 5 mlwydd oed

Ie

Gofalwyr 16 oed neu hŷn

Ie

Ie

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Ie

Ie

Yr holl staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Ie

Ie