Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant cenedlaethol yng ngwobrau nyrsys

A photo collage of eight finalists from RCn awards 2023

18 Gorffennaf 2023

Roedd yn noson o lwyddiant i dîm nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda dwy enillydd a chwech yn ail yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru 2023 eleni.

Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd neithiwr i ddathlu llwyddiannau eithriadol pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan gynnwys eu dylanwad cadarnhaol ar arfer nyrsio gorau a gwella’r gofal a roddir i unigolion a chymunedau yng Nghymru.

Llongyfarchiadau mawr i Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor, enillydd y Wobr Cyflawniad Oes a Kerri Rowe, Nyrs Arbenigol Allgymorth Oncoleg Pediatrig (POONS), enillydd Gwobr Nyrsio Pediatrig Suzanne Goodall.

Y rhai a ddaeth yn ail ar y noson oedd:

• Sian Lewis, Nyrs Arweiniol Clinigol yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberaeron, a Bianca Oakley, Uwch Ymarferydd Nyrsio yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, a enwebwyd ar y cyd ar gyfer y Wobr Nyrsio Cymunedol

• Melanie Rix-Taylor, Rheolwr Achos Comisiynu yn y Tîm Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, a enwebwyd ar gyfer y Wobr Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl

• Nia Sheehan, Myfyriwr Nyrsio yng Nghanolfan Adnoddau Iechyd Meddwl Gorwelion a enwebwyd ar gyfer Gwobr Myfyriwr Nyrsio

• Dr Augusta Stafford-Umughele, Rheolwr Gweithlu, Diwylliant, Amrywiaeth a Chynhwysiant a enwebwyd ar gyfer Gwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru

• Tricia Roberts, Nyrs Glinigol Arbenigol yng Nghanolfan Adnoddau Maes Ffynnon a enwebwyd ar gyfer y Wobr Nyrsio Uwch ac Arbenigol

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf yn y bwrdd iechyd: “Mae cael eich cydnabod am y cyfraniad a wnewch fel nyrs neu fydwraig drwy Wobrau RCN Cymru blynyddol yn gyflawniad aruthrol. Mae’r gwobrau’n rhoi cyfle gwirioneddol i nyrsys, myfyrwyr, gweithwyr cymorth a bydwragedd arddangos y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau’r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt ac rwy’n falch iawn bod nyrsys Hywel Dda wedi cael eu cydnabod unwaith eto.”

Fe wnaeth Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor ennill y Wobr Cyflawniad Oes am ei gwaith, gan ddatblygu cyfoeth o ddoethineb a phrofiad yn enwedig mewn nyrsio sylfaenol a chymunedol, gofynion cytundeb gwasanaethau meddygol cyffredinol (GMS), rheoli cyflwr hirdymor a gofal iechyd parhaus a darparu cyngor a chymorth ar lefel genedlaethol. Mae ei chyflawniadau yn lluosog ac yn cynnwys pethau fel datblygu'r rhaglen ymarferydd nyrsio gyntaf mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe; sefydlu’r fframwaith nyrsio ymarfer cyffredinol cenedlaethol cyntaf, sefydlu rheolaeth gymunedol dan arweiniad nyrsys o unigolion â chyflwr cronig, a llawer mwy. Dywedodd:  “Mae’n anrhydedd fawr i fod wedi derbyn y Wobr hon. Rwy’n falch o’r datblygiadau mewn Gofal Sylfaenol a Nyrsio Cymunedol dros y blynyddoedd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’r rôl arweiniol yr wyf wedi’i chwarae’n lleol ac yn genedlaethol yn natblygiad y Proffesiwn.

Wrth inni edrych ymlaen, rwy’n gobeithio y gallaf ysbrydoli ac annog nyrsys eraill sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd drwy’r gofal tosturiol y maent yn ei ddarparu i’n cleifion, i fanteisio ar bob cyfle i ddylanwadu ac arwain newid a fydd yn gwella canlyniadau i’n cleifion ac yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.”

Fe wnaeth Kerri Rowe ennill Gwobr Nyrsio Gofal Lliniarol Pediatrig Suzanne Goodall am ei gwaith yn ymchwilio i rôl POONS wrth ddarparu gofal profedigaeth i deuluoedd. Yn ystod ei modiwl gwella ansawdd fel rhan o'i MSc, nododd bryder yn lleol ynghylch rhoi cemotherapi'n ddiogel yn y gymuned a'r angen am bympiau i wella diogelwch ac ansawdd cleifion. Dywedodd: “Rwy’n teimlo’n fraint ac yn anrhydedd eithriadol o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac ni feddyliais erioed y byddwn yn cyrraedd y rownd derfynol ac yn ennill! Mae'n anrhydedd gwneud y swydd rydw i'n ei gwneud. Dyna’r cyfan rydw i erioed wedi bod eisiau ei wneud a gweithiais drwy gydol fy ngyrfa i ennill profiadau, cymwysterau a sgiliau perthnasol i wneud y swydd hyd eithaf fy ngallu. Yn gyntaf, ni allaf wneud fy swydd heb y tîm o weithwyr proffesiynol y GIG yr wyf yn gweithio ochr yn ochr â hwy, yn fy nghefnogi ac yn cyfrannu at y gofal cyffredinol y gallaf ei roi, ond yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i'r teuluoedd a'r cleifion hardd sy'n fy nghroesawu i'w cartrefi a chaniatáu i mi weithio ochr yn ochr â nhw i ofalu am eu plentyn gartref ar adeg mor ddinistriol yn eu bywydau - byddaf yn ddiolchgar am byth ac yn gobeithio parhau i ddatblygu’r rôl ac arferion i sicrhau ein bod yn darparu gofal diogel ac effeithiol i’r safon uchaf posibl.”

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, rydym mor falch o’ch cael chi fel rhan o’n teulu Hywel Dda.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: Nurse of the Year Award Winners 2023 | Wales | Royal College of Nursing (rcn.org.uk)

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Gwybodaeth am yr ail safle: Roedd Sian Lewis, Nyrs Arweiniol Clinigol, a Bianca Oakley, Uwch Ymarferydd Nyrsio, yn gydradd ail ar gyfer y Wobr Nyrsio Cymunedol. Cawsant eu henwebu am sefydlu’r gwasanaeth mân anafiadau/gofal brys yr un diwrnod (SDEC) yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, adeilad newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi rhoi mynediad i gleifion i ofal, gofal yn nes at eu cartrefi, ac wedi lleihau'r pwysau ar safleoedd ysbytai cyffredinol.

Enwebwyd Melanie Rix-Taylor, Cynghorydd Nyrsio - Tîm Comisiynu Gofal Iechyd Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu, am gydnabod anghenion pobl sydd â diagnosis o anableddau dysgu dwys a lluosog (PMLD) ac anghenion iechyd corfforol ychwanegol sydd angen gofal nyrsio. Cysylltodd â darparwyr a daeth o hyd i gyfle mewn datblygiad newydd ar gyfer uned fach, bwrpasol i ofalu am y rhai ag ADDLl ac anghenion iechyd corfforol ychwanegol.

Daeth Nia Sheehan, Myfyriwr Nyrsio (cangen Iechyd Meddwl), yn ail ar gyfer y Wobr Myfyriwr Nyrsio. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, cydnabu Nia anghenion iechyd meddwl a gofal poblogaeth wledig ac mae wedi cyflwyno clinig iechyd yn llwyddiannus sy’n darparu mynediad at gymorth ar gyfer iechyd meddwl, iechyd corfforol ac anghenion cymdeithasol. Yn ystod ei hyfforddiant cymerodd Nia y rôl arweiniol wrth drefnu Clinig Iechyd Un Alwad ar gyfer cleifion sy'n dioddef problemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus.

Daeth Dr Augusta Stafford-Umughele, Rheolwr y Gweithlu, Diwylliant, Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn ail ar gyfer Gwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru. Helpodd Augusta y bwrdd iechyd i ddeall a dysgu mwy am y materion y mae staff o'r mwyafrif byd-eang yn eu hwynebu. Cynhaliodd ymarferion gwrando gyda staff nyrsio a dylanwadodd ar newidiadau i gefnogaeth llwybrau datblygu nyrsys. Mae ei sgiliau rhwydweithio a dylanwadu wedi arwain at nifer sylweddol o staff nyrsio yn ymuno â’r Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Tricia Roberts, Nyrs Glinigol Arbenigol yng Nghanolfan Adnoddau Cae Ffynnon, ddaeth yn ail ar gyfer y Wobr Nyrsio Uwch ac Arbenigol. Mae hi wedi arloesi gyda gwaith ym maes gwasanaethau ADHD i oedolion (anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd) yng ngorllewin Cymru. Wedi sefydlu gwasanaethau o'r newydd, mae hi wedi meithrin gobaith a phositifrwydd.