Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr Gwobr Arwyr Ffliw Hywel Dda 2019/20

Bob blwyddyn, mae cannoedd o staff y GIG yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r brechlyn ffliw tymhorol i staff iechyd a gofal cymdeithasol, plant ysgol a'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o gymhlethdodau ffliw.

Rydym wedi bod yn ffodus bod y tymor wedi bod yn un ysgafn ar y cyfan ond bu llawer o bobl yn gweithio'n galed i amddiffyn ein poblogaeth ar draws Hywel Dda. Mae hynny'n cynnwys ein hyrwyddwyr ffliw, timau atal a rheoli heintiau a'n gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol sy'n brechu staff ein bwrdd iechyd. Ein cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol a'r gymuned (meddygon teulu, nyrsys practis, fferyllwyr, nyrsys ardal) a hefyd timau bwrdd iechyd eraill fel nyrsys ysgol a bydwragedd sydd hefyd yn brechu'r rhai sy'n agored i ddal firws y ffliw.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac yn benodol meddygfa Tyddewi a Solfach yn Sir Benfro sydd wedi llwyddo i gyflawni pob un o dri targed heriol Llywodraeth Cymru a lleol ar gyfer brechu grwpiau plant ac oedolion cymwys.

Roeddem wedi bwriadu dod at ein gilydd ac amlygu cyflawniadau'r rhai sy'n gweithio ar yr ymgyrch ffliw a meddygfeydd eraill gan gynnwys Borth, Coalbrook, Llangennech a Penygroes a wnaeth gam mawr ymlaen, ond yn anffodus, mae'r pandemig parhaus wedi golygu bod yn rhaid i ni wneud hyn ychydig yn wahanol , fel sy'n wir gyda chymaint o bethau y dyddiau hyn.

Mae’r Prif Weithredwr Steve Moore wedi recordio’r fideo yma o ddiolch i bawb a fu’n rhan o ymdrechion y tymor diwethaf ac i’r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol a gafodd y brechlyn ffliw - diolch am amddiffyn eich cleifion a’ch cydweithwyr.

Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr Gwobr Arwyr Ffliw Hywel Dda 2019/20:

Gwobr Arloesi
Llongyfarchiadau i'n partneriaid yn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am gynnal digwyddiad brechu ffliw Sam Tân arbennig ar gyfer plant dwy a thair oed yn Noc Penfro.

Gwobr Tu ôl i'r Llenni
Llongyfarchiadau i'r ddau enillydd yn y categori hwn, Sue Rees, Uwch Ymarferydd Nyrsio mewn Rheoli Heintiau am ei gwaith ar ddatblygu prosiect i frechu cleifion mewn ysbytai a Troy Bradshaw, Swyddog Fferyllol yn Ysbyty Bronglais am ei holl waith ar sicrhau bod y brechlyn ar gyfer y staff a'r ysgolion yn cael eu prosesu a'u cyflwyno mewn pryd i'r lle iawn.

Gwobr Tîm
Tîm Nyrsio Ysgol Hywel Dda dan arweiniad Barbara Morgan yw derbynnydd haeddiannol gwobr eleni am y gwaith o gynllunio a chyflwyno’r ymgyrch ysgolion lle cafodd bron i 20,000 o blant eu brechu ar draws y tair sir.

Gwobr Hyrwyddwr Ffliw
Y Brif Nyrs, Catrin Jones yn Ysbyty Dyffryn Aman sy’n derbyn Gwobr Hyrwyddwr Ffliw eleni am ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i gynnig brechiad i'r holl staff yng Nghwm Aman a'r gymuned gyfagos trwy ei rôl fel hyrwyddwr ffliw.

Gwobr Partneriaeth
Llongyfarchiadau i Donna Hughes yng Nghyngor Sir Ceredigion a Gary Jones yn Fferyllfa Talybont am eu gwaith gwasanaeth allgymorth wrth ddarparu clinigau mynediad agored i staff Cyngor Sir Ceredigion gael eu brechu.

Gwobr Clwstwr
Llongyfarchiadau i Glwstwr De Sir Benfro dan arweiniad Dr Martin Mackintosh am eu gwaith ar draws meddygfeydd teulu yn yr ardal i gynyddu eu cyfraddau derbyn

Gwobr Ragoriaeth
Llongyfarchiadau i feddygfeydd teulu Solfach a Tyddewi am gyrraedd targedau ar gyfer pobl dros 65 oed, dan 65 oed, a phlant dwy a thair oed a hefyd i bob fferyllfa gymunedol am eu cynnydd sylweddol mewn brechlynnau a gyflwynwyd y tymor ffliw hwn (a dderbyniwyd gan Angela Evans, Rheolwr Gofal Sylfaenol ar ran fferyllfeydd cymunedol)

Mae cydnabyddiaeth arbennig hefyd yn mynd i bractisau meddygon teulu Borth, Coalbrook, Llangennech a Penygroes a wnaeth pob cam mawr wrth ddarparu'r brechiad ffliw i'w cleifion eleni.