Neidio i'r prif gynnwy

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar leoliad ysbyty gofal brys a wedi'i gynllunio newydd

21 Chwefror 2023

Rhwng 23 Chwefror a 19 Mai, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd, staff a sefydliadau partner, i rannu eu barn am dri safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys newydd wedi’i gynllunio fel rhan o strategaeth ehangach y Bwrdd Iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Y llynedd, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3biliwn mewn iechyd a gofal yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus. Sylfaen y cynllun, a ddatblygwyd yn dilyn ymgynghoriad yn 2018, yw dod â chymaint o ofal â phosibl yn nes at gartrefi pobl, gyda chynlluniau ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau iechyd a gofal integredig, wedi’u dylunio gyda chymunedau lleol, ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.

Mae Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda, yn esbonio: “Mae ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn rhan o’n strategaeth i allu ail-ddarparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol, trwy gael model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd hyn yn gwella ac yn cynyddu’r gwasanaethau gofal arbenigol y gellir eu darparu yn Hywel Dda ac yn mynd i’r afael â rhai heriau hirsefydlog, gan gynnwys hen ysbytai, problemau wrth gynnal rotas meddygol dros sawl ysbyty, a recriwtio staff.”

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein hymgynghoriad yn nodi tri safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – dau ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.

“Nid oes gennym safle a ffefrir ac nid ydym wedi prynu unrhyw safle na thir ar gyfer y datblygiad hwn. Mae prynu safle a darparu’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, nad yw wedi’i gadarnhau eto, ac os bydd yn llwyddiannus, byddai’n cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni. Yn y cyfamser, rydym am barhau i weithio gyda chi, ein cymunedau, i baratoi a darparu'r gwasanaethau iechyd a gofal gorau y gallwn.

Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio adborth gan bob aelod o’r cyhoedd – pobl sy’n byw, yn gweithio, neu sydd â diddordeb yn ein hardal, yn ogystal â sefydliadau sy’n gweithio ym maes iechyd a llesiant neu sydd â diddordeb ynddo, ar y safleoedd posib ar gyfer yr ysbyty newydd.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio BIP Hywel Dda: “Rydym am gwrdd â chymaint o bobl yn ein cymunedau â phosibl a chlywed eu barn yn ystod yr ymgynghoriad. Er mwyn helpu aelodau o’n cymunedau i ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer ein hysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, rydym wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau galw heibio cyhoeddus – yn bersonol ac ar-lein – i bobl rannu eu barn gyda ni. Edrychwn ymlaen at gyfarfod ag aelodau o’n cymunedau yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Bydd y digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal rhwng 2pm a 7pm:

  • 10 Mawrth, Y Neuadd Fawr, Neuadd y Dref, Aberteifi
  • 14 Mawrth, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli
  • 16 Mawrth, Clwb Rygbi Hwlffordd, Hwlffordd
  • 21 Mawrth, Gwesty Llwyn Iorwg, Caerfyrddin
  • 24 Mawrth, Neuadd Regency, Saundersfoot
  • 28 Mawrth, Neuadd Goffa Llandybie, Llandybie
  • 17 Ebrill, Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Hendy-gwyn ar Daf
  • 21 Ebrill, Canolfan Morlan, Aberystwyth,
  • 24 Ebrill, Canolfan Hamdden Sanclêr, Sanclêr

Yn ogystal â’r digwyddiadau galw heibio, mae tair sesiwn ar-lein wedi’u trefnu ar gyfer:

  • 6:30pm, 13 Mawrth 
  • 1pm, 23 Mawrth
  • 10am, 31 Mawrth

Bydd manylion yr ymgynghoriad, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y sesiynau ar-lein, copïau o’r dogfennau ymgynghori mewn amrywiaeth o fformatau, a manylion am sut i rannu eich barn, ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd ar 23 Chwefror: biphdd.gig.cymru/safle-ysbyty-newydd