Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Siarter Celfyddydau ac Iechyd Cyntaf Cymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

21 Mai 2024

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio ei Siarter Celfyddydau ac Iechyd yn swyddogol, addewid i’r cyhoedd integreiddio’r celfyddydau i waith y bwrdd iechyd.

Y Siarter yw’r gyntaf yng Nghymru, os nad y DU, a chaiff ei chyflawni drwy gyfres o wyth egwyddor ac addewid y Celfyddydau ac Iechyd, gan ei gwneud yn rhan annatod o’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a lles.

Dywedodd Eleanor Marks, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chadeirydd grŵp Celfyddydau ac Iechyd y bwrdd iechyd: “Mae ein Siarter Celfyddydau ac Iechyd wedi’i adeiladu ar y dystiolaeth gynyddol bod gan y celfyddydau rôl allweddol i’w chwarae wrth atal salwch iechyd, gwella lles, trin afiechyd, helpu pobl i fyw'n dda gyda salwch, hybu iachâd ac adferiad ac annog ymddygiad iach.

“Wedi’n cyd-greu mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a’r celfyddydau, cleifion, cymunedau, a staff, rydym yn falch o fod y sefydliad GIG cyntaf yng Nghymru i sicrhau bod y celfyddydau’n cael eu hintegreiddio i amcanion strategol y bwrdd iechyd.”

Yn ystod lansiad dathlu ar-lein a gynhaliwyd fel rhan o Wythnos Creadigrwydd a Llesiant y DU, daeth cleifion a staff at ei gilydd i rannu eu profiad a’u gobeithion ar gyfer y celfyddydau mewn gwasanaethau iechyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Cafodd gwesteion eu cyfarch gyda cherddoriaeth fyw yn cael ei chwarae i gleifion a staff ein ward eiddilwch acíwt newydd yn Ysbyty Llwynhelyg, gan Music in Hospitals and Care.

Rhannodd y claf Lyn Mura, sy’n derbyn triniaeth yn Uned Trin Canser Bronglais ar hyn o bryd, sut y gall integreiddio celf i amgylchedd y claf fod yn wrthdyniad i’w groesawu: “Pan fyddwch chi’n eistedd am hyd at chwe awr mewn cadair, mae’r gwahaniaeth yn mynd i fod yn ddiriaethol iawn.

“I gael gwaith celf yn amgylchedd y claf, mae rhywbeth amdano sy'n eich tynnu i mewn ac yn mynd â'ch meddwl i rywle arall. Gall celf dawelu a’ch meddiannu mewn eiliad pan fyddwch chi’n ofni’r hyn sydd nesaf.”

Roedd gwasanaethau sydd eisoes wedi gweld manteision integreiddio’r celfyddydau i ofal eu cleifion hefyd yn rhannu eu profiadau.

Rhannodd yr Uwch Nyrs mewn Meddygaeth, Sarah Williams a’r Brif Nyrs Iau Donna Major, sut mae prynhawniau Gwener yn Ysbyty Glangwili yn llawn crochenwaith, paentio sidan a gwneud pom pom ar gyfer cleifion â dementia gydag artistiaid o Arts Care Gofal Celf.

Rhannodd Lara Schmidt, Therapydd Galwedigaethol yn Santes Non, Ysbyty Llwynhelyg sut mae ei chleifion yn elwa o ganu a cherddoriaeth a ddarperir gan Forget Me Not Chorus. Dywedodd fod ei chleifion yn ymddangos yn llawer llai gofidus a pha mor hyfryd fu gweld ei chleifion yn gwenu ac yn ymlacio mwy.

Roedd gwesteion hefyd yn gallu aros am sesiwn Canu ac Anadlu ychwanegol a gyflwynwyd gan arbenigwr lleisiol Opera Cenedlaethol Cymru a’r mezzo-soprano Jenny Pearson. Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn arwain y sesiynau hyn ledled Cymru, gan wella canlyniadau ar gyfer ein cleifion â chovid hir.

Meddai Eleanor i gloi, “Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein dathliad o lansiad y Siarter bwysig hon gyda cherddoriaeth ac am rannu eu straeon a’u profiad o gelfyddydau mewn gofal iechyd a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw.

“Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y credwch a all weithio yn eich gwasanaeth neu dîm, cysylltwch â'n tîm Celfyddydau ac Iechyd.

“Dyma ddechrau taith gyffrous iawn ac rwy’n annog pawb i ystyried sut y gallai integreiddio’r celfyddydau i’n gwasanaethau fod o fudd i iechyd a lles cleifion a staff.”

Sut gallwch chi gymryd rhan neu gael gwybod am y Celfyddydau ac Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: