Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Rhaglen Graddedigion Rheoli Cyffredinol GIG Cymru ar gyfer arweinwyr y dyfodol

Mae'r chwilio wedi dechrau ar gyfer arweinwyr GIG Cymru yn y dyfodol drwy lansio Rhaglen Graddedigion Rheoli Cyffredinol GIG Cymru.  

Mae'r rhaglen hon sy'n seiliedig ar waith, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cynnwys rhaglen Meistr wedi'i hariannu'n llawn.  

Mae'r llwybr gyrfa carlam hwn yn agored i bob graddedig sydd wedi cyrraedd neu y rhagwelir y bydd yn cael o leiaf 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth gradd ac sydd â chaniatâd i weithio a byw yn y DU, heb unrhyw gyfyngiadau. Nid oes terfyn amser ar gyfer pa mor bell yn ôl y dyfarnwyd eu gradd i ymgeiswyr, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bob grŵp, gan gynnwys ymgeiswyr mewnol

Dylai ymgeiswyr fod yn angerddol ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Byddant yn wynebu amrywiaeth o heriau gwahanol a fydd yn sicrhau bod system gofal iechyd fodern, flaengar o'r radd flaenaf yn parhau i gael ei darparu yng Nghymru. 

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru: "Maelansio'r rhaglen genedlaethol hon ar hyn o bryd i chwilio am arweinwyr GIG Cymru yn ydyfodol yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn parhau i gael ein harwain gan y dalent orau sydd gennym yng Nghymru. 

"Bydd y rhaglen yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i'r hyfforddeion weithio ar draws ystod eang o leoliadau ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sut mae ein teulu GIG cymhleth ac amlwg yn gweithio'n wych gyda'i gilydd i sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion, cydweithwyr a phartneriaid tra'n gweithio tuag at radd Meistr wedi'i hariannu'n llawn." 

Bydd y 13 ymgeisydd llwyddiannus wedi'u lleoli o fewn bwrdd iechyd, ymddiriedolaeth neu awdurdod iechyd arbennig yng Nghymru (gyda'ch sefydliad eich hun yn cynnal hyfforddai), gan helpu'r gwasanaeth iechyd i gynyddu ei allu i wrthsefyll a gwella'n barhaus tra'n creu ffyrdd creadigol ac arloesol o weithio. 

Bydd pecyn cymorth helaeth ar gael i'r rhai sydd ar y rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu, hyfforddi, a mentora gan arweinwyr ysbrydoledig a deinamig, gan alluogi hyfforddeion i ddatblygu sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth dosturiol.  

Wedi'i leoli mewn un o sefydliadau'r GIG, bydd hyfforddeion yn gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol sy'n profi cymysgedd o ddysgu academaidd ac ymarferol tra'n ymgymryd â lleoliadau mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd ac o fewn isadran gorfforaethol.

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen sy'n dechrau ym mis Hydref 2021 ar agor ddydd Mercher 7 Hydref ac yn cau ddydd Mercher 28 Hydref 2020.

Rhannwch y wybodaeth hon yn bell ac eang gyda chydweithwyr ac unrhyw un sydd am newid dyfodol GIG Cymru drwy wneud gwahaniaeth.

Ble arall y byddech yn cael y cyfle neu'r sefydliad a all gynnig profiadau o eistedd i mewn ar lawdriniaeth, teithio mewn ambiwlans, arsylwi derbyniadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ymweld â chorffdy neu fynychu cyfarfod bwrdd? 

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am y rhaglen, cael ei hysbrydoli gan hyfforddeion blaenorol a dysgu mwy am y broses ymgeisio:

https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/grad-programmes