Neidio i'r prif gynnwy

Lansio fideos newydd i gefnogi gofal i blant a chleifion ifanc

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

Atgoffir rhieni, gofalwyr plant a phobl ifanc y gallant ddal i gael mynediad at ofal mân anafiadau 24/7 i blant yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, neu yn ystod y dydd yng Nghanolfan Cerdded i mewn Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Gofal Integredig Aberteifi. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi creu cyfres o fideos gwybodaeth newydd yn egluro'r mathau o ofal y gallwn eu darparu ar hyn o bryd i blant a chleifion iau yn dilyn symud Uned Gofal Ambiwladol Pediatreg (PACU) Llwynhelyg dros dro. Gall unedau mân anafiadau drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gyda mân anafiadau fel y canlynol:

  • Mân glwyfau
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau
  • Brathiadau pryfed
  • Mân anafiadau i'r goes, y pen neu'r wyneb (* gweler esboniad)
  • Darnau dieithr yn y trwyn neu'r glust

Mae unedau mân anafiadau yn cael eu rhedeg gan dîm profiadol o ymarferwyr nyrsio brys, nyrsys brysbennu a gweithwyr cymorth gofal iechyd medrus iawn. Mae rhai wedi'u lleoli ar brif safleoedd ysbytai, sydd ag adrannau brys hefyd, ac mae eraill mewn canolfannau gofal iechyd yn y gymuned.

Dywedodd Bethan Thomas, Ymarferydd Nyrsio Brys yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg: “Mae rhan o fy rôl yn aml yn cynnwys trin plant a phobl ifanc â mân anafiadau, a gallwn wneud hyn yn eithaf cyflym yn yr adran achosion brys yn Llwynhelyg fel y gall y cleifion hynny ddychwelyd adref ar ôl cael eu gweld a chael gofal.”

Bydd plant â salwch neu anafiadau difrifol yn cael eu gweld yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Yn y fideos, sydd i'w gweld ar wefan y Bwrdd Iechyd ac ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'r Pediatregydd Ymgynghorol Dr Didi Ratnasinghe hefyd yn esbonio'r hyn y mae angen i rieni fod yn ymwybodol ohono a sut i gael mynediad at ofal os oes gan eu plentyn salwch anadlol, tra bod y Pediatregydd Dr Prem Kumar yn rhoi cipolwg ar yr hyn i'w ddisgwyl os bydd angen i'ch plentyn aros yn yr ysbyty i gael triniaeth. Mae'r Ymgynghorydd Meddygaeth Frys Dr Nicola Drake yn rhoi esboniad o argyfyngau meddygol plentyndod eraill, a phryd y mae angen i rieni ffonio 999 er mwyn i ambiwlans i fynd â phlentyn i Glangwili neu Bronglais.