Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau i blant

Rydym yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc, ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, sy'n bodloni’r safonau meddygol a ddisgwylir yn y GIG. Mae ein hymgynghorwyr arbenigol, nyrsys a thimau gofal iechyd ehangach yn cynnig ystod eang o gyfleusterau diagnosis, triniaeth a chymorth i chi a'ch plentyn mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Mae triniaeth, diogelwch a chysur eich plentyn yn bwysig iawn i ni, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eu hymweliad neu arhosiad mor ddymunol â phosibl.

Os yw'ch plentyn yn ddifrifol wael neu wedi'i anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999.

Ar gyfer salwch nad ydynt mor ddifrifol, defnyddiwch Gwiriwr Symptomau GIG Cymru (agor mewn dolen newydd), gwnewch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu, neu ffoniwch GIG Cymru 111 os ydych yn ansicr ynghylch beth i'w wneud. Gellir gweld plant â mân anafiadau (fel ysigiadau, toriadau, neu fân losgiadau) mewn unedau mân anafiadau neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol.

Efallai y gofynnir ichi fynd â phlentyn sâl i'ch Adran Achosion Brys agosaf gydag arbenigwyr pediatreg ysbyty ar y safle (Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn ardal Hywel Dda ar hyn o bryd).

Adborth ar wasanaethau plant - mae casglu sylwadau a medyliau yn bwysig iawn i'n helpu i ddarparu'r gwasanaeth o'r ansawdd gorau i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd.  Cwblhewch un o'n harolygon i roi adborth i'ch profiad (agor mewn dolen newydd) 

Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori’n gyhoeddus ar wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatreg) yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Mae mwy o wybodaeth yn ymgynghoriad (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: