Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda yn ymuno i ddweud diolch yn fawr iawn ar benblwydd y Gwasanaeth Iechyd

Ar Sul 5 Gorffennaf, ymunodd staff Hywel Dda yn y clapio mawr am y tro olaf i ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd ond hefyd i ddiolch i’r holl weithwyr allweddol, cymdogion da a phawb sydd wedi helpu i ddod trwy’r cyfnod anodd hwn.

Ar draws y tair sir, cymerodd staff y Gwasanaeth Iechyd y cyfle i ddweud diolch yn fawr ac i ddathlu penblwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 72 oed.

Hefyd, trwy gydol y diwrnod, manteisiodd Elusennau Iechyd Hywel Dda ar y cyfle i ddathlu ymdrechion codi arian staff, cleifion a gwirfoddolwyr Hywel Dda dros y misoedd diwethaf.

I’w gweld yn y clipiau fideo sydd ar dudalen Facebook Elusennau Iechyd Hywel Dda, mae Vindya Prabhu, 14 oed, merch Dr Vinod Prabhu, Llawfeddyg Ymgynghorol ENT Pen a Gwddf yn Ysbyty Glangwili Hospital, wnaeth dreulio 10 diwrnod yn dringo’r grisiau i gyrraedd copa 3,560 troedfedd Yr Wyddfa. Mae Vindaya wedi codi £410 fel diolch i’r Gwasanaeth Iechyd.

I’w gweld hefyd mae Alysha Scarrott, 10 oed, sydd wedi rhedeg milltir y dydd am dros 65 diwrnod i ddiolch a chodi arian i elusennau’r Gwasanaeth Iechyd. Yn ei chlip, meddai Alysha ei bod wedi gwneud hyn oherwydd dewrder staff y Gwasanaeth Iechyd yn y cyfnod ofnadwy hwn. Mae Alysha wedi codi dros £8,500.

Meddai Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda: “Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gofalu am gleifion a’u teuluoedd ochr yn ochr â’r sector iechyd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i weithwyr siopao, staff cludiant, dosbarthwyr, athrawon, casglwyr sbwriel, ffermwyr, gweithwyr y lluoedd arfog a gweithwyr allweddol eraill sydd wedi cadw’r wlad i redeg.

Dyma oed ein cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi aros gartref hyd yn oed wrth i’r haul ddisgleirio, y bobl wnaeth wirfoddoli, pawb fu’n helpu eu cymdogion gyda’u siopa phob un sydd wedi golchi eu dwylo’n amlach.

“Mae’n bwysig, fodd bynnag, cofio nad yw COVID wedi mynd, a bod angen i’n cymunedau fod yn wyliadwrus i ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd a’n Gwasanaeth Iechyd rhag y feirws.”

Meddai Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Wrth i ni symud oddi wrth heriau cychwynnol COVID-19, rydym yn ystyried sut y gall yr arian elusennol a gasglwyd barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol at iechyd, llesiant a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y Gwasanaeth Iechyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Deallwn ein bod mewn amser anodd, ond bydd unrhyw gefnogaeth gennych yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n cleifion, eu teuluoedd a’n staff. Byddai ein gwaith yn amhosib heb eich cefnogaeth.”

Gallwch roi nawr, yn hawdd ac yn gyflym trwy droi at www.justgiving.com/hywelddahealthcharities neu am fwy o wybodaeth am Elusennau Iechyd Hywel Dda Health Charities ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk neu cysylltwch â’r tîm ar 01267 239815.