Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda yn lansio Strategaeth Ymchwil ac Arloesi

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi ei Strategaeth Ymchwil ac Arloesi, a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau clinigol i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae'r strategaeth, sy'n rhan o strategaeth iechyd a gofal hirdymor BIP Hywel Dda, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau'r Dyfodol yn Byw'n Dda, yn ceisio gwella proffil, ansawdd a maint y gweithgaredd ymchwil ac arloesi yn BIP Hywel Dda.

Yn ogystal, er bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar gymunedau ledled y canolbarth a’r gorllewin, dangosodd y cysylltiad hanfodol rhwng ymchwil, arloesi a gwneud penderfyniadau ar bob lefel o'r system gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd uniongyrchol trosi ymchwil ac arloesi yn fuddion iechyd.

Bydd y Strategaeth Ymchwil ac Arloesi yn canolbwyntio ar osod y cyfeiriad ac ymrwymo i gyflawni camau ymarferol i symud agenda ymchwil, datblygu ac arloesedd y bwrdd iechyd yn ei blaen. Cyflawnir hyn trwy bedwar nod strategol:

  • Gwella ansawdd ac effaith gweithgareddau.
  • Buddsoddi mewn staff a chyfleusterau i annog cylch cyllido rhinweddol.
  • Tyfu gweithgaredd ymchwil ac arloesi mewn meysydd o gryfder a chyfle.
  • Datblygu partneriaethau cryf ac effeithiol gyda sefydliadau academaidd, gofal iechyd, diwydiant ac ymchwil.

Dywedodd Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau yn BIP Hywel Dda: “Ein gweledigaeth yw cynhyrchu a chydweithio mewn gwaith ymchwil ac arloesi iechyd a gofal o ansawdd uchel, er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau iechyd i’n cyhoedd, cleifion a staff. Mae'r strategaeth hon yn manylu ar sut yr ydym yn anelu at wella ein galluoedd ymchwil ac arloesi, a fydd â budd uniongyrchol i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn y tair sir.

“Mae pandemig COVID-19 wedi dangos yn union pa mor hanfodol yw ymchwil ac arloesi i ddelio ag argyfwng iechyd cyhoeddus gwaethaf ein hamser. Mae ymchwil ac arloesi rhagorol yn cyfrannu at well canlyniadau iechyd, oherwydd ei fod yn ymgorffori diwylliant o'r safonau uchaf o ran darparu iechyd a gofal, wedi'i danategu gan dystiolaeth a thrwy ddenu gweithwyr o ansawdd uchel.

“Bydd gweithredu’r strategaeth hon yn cael ei wneud mewn cydweithrediad ag amrywiaeth eang o bartneriaid, o’n cyllidwyr presennol, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i sefydliadau a diwydiant y sector preifat, a thimau clinigol a rheolaethol y bwrdd iechyd.”

Os ydych am adolygu’r strategaeth neu eu drafod ymhellach gyda’r tîm ymchwil ac arloesi, ebostiwch researchsupport.hdd@wales.nhs.uk.