Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i'n helpu chi – defnyddio ein gwasanaethau

Mae ein gwasanaethau dan bwysau, helpwch ni i'ch helpu drwy ddewis yn ofalus sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau, fel ein bod ond yn gweld pobl ag anghenion gofal brys neu argyfwng yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys (A&E).

Teimlo’n anhwylus ond yn ansicir beth i’w wneud?

Os ydych chi'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch ymweld â'r gwiriwr symptomau (yn agor mewn ffenest newydd).  ar-lein i groeswirio'ch symptomau yn erbyn nifer o anhwylderau cyffredin ac, os cewch gyfarwyddyd, ffoniwch GIG 111 Cymru.

Pryd i fynd i Adran Achosion Brys?

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, megis:

  • Anawsterau anadlu difrifol
  • Poen difrifol neu waedu
  • Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
  • Anafiadau trawma difrifol (ee o ddamwain car)

Pryd i fynd i’n Huned Mân Anafiadau

Os oes gennych anaf llai difrifol, yna ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel:

  • Mân glwyfau
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau
  • Brathiadau pryfed
  • Mân anafiadau i goes, pen neu wyneb (* gweler y nodyn)
  • Corffyn estron yn y trwyn neu'r glust

Mae gennym wasanaethau fân anafiadau neu gerdded i mewn yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, a manylion am sut i’w cyrraedd, ewch i’n tudalen Unedau mân anafiadau -(yn agor mewn ffenest newydd).

Gofal brys ond ddim yn argyfwng

Os oes gennych chi anghenion gofal brys na allant aros ond nad ydynt yn argyfyngau 999, ffoniwch 111 ar gyfer Galw Iechyd Cymru am gyngor a chymorth iechyd. Mae’r rhif am ddim i’w ffonio ac mae’r gwasanaeth hwn ar gael hyd yn oed pan fydd eich meddygfa ar agor. 111 hefyd yw’r rhif sydd ei angen arnoch i gael mynediad at wasanaethau Meddygon Teulu y tu allan i oriau ar draws ein hardal.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau amgen ar ein tudalen Gwasanaethau brys ac allan o oriau (yn agor mewn ffenest newydd).

Cefnogaeth brys iechyd meddwl

Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych yn pryderu am aelod o’r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewiswch opsiwn 2 i gael eich rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal. Mae’r rhif am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl.

Gofal yn eich cymuned

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy ar ein tudalen 

Gwasanaeth Fferyllfa (yn agor mewn ffenest newydd).

Gall eich fferyllydd hefyd ddarparu cyngor a thriniaeth cyfrinachol ac am ddim y GIG ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin heb i chi orfod wneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu.

Mae'r rhestr o anhwylderau cyffredin yn cynnwys: diffyg traul, rhwymedd, dolur rhydd, clwyf y marchogion, twymyn gwair, llau pen, torri dannedd, brech cewyn, colig, brech yr ieir, llyngyr, dolur gwddf, tarwden y traed, llid yr amrant, acne, croen sych, dermatitis, verwca, poen cefn, caswein, llindag gweiniol, llindag geneuol a’r clefyd crafu.

Mae rhestr o fferyllfeydd sy'n rhan o'r Gwasanaeth anhwylderau cyffredin ar gael yma (yn agor mewn ffenest newydd).

Aros yn yr ysbyty cyn lleied â phosibl

Ynghyd â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol, y trydydd sector ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, rydym yn canolbwyntio ar reoli’r capasiti sydd gennym yn ein hysbytai acíwt a’n hadrannau achosion brys prysur, tra hefyd yn lleihau faint o amser y mae angen i gleifion ei dreulio mewn gwely ysbyty, drwy ddarparu cymaint o ofal nad yw’n ofal brys a gofal dilynol y tu allan i amgylchedd yr ysbyty ag y gallwn.

Os oes gennych ffrind, aelod o'r teulu neu rywun annwyl sy'n ddigon iach yn feddygol i gael eich rhyddhau o'r ysbyty, helpwch ni drwy ddod i'w casglu'n brydlon. Bydd hyn yn ein galluogi i ryddhau gwelyau yn gyflymach ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael a chadw llif y cleifion yn gyson trwy ein hysbytai. I gael gwybod mwy am y profiad claf mewnol ewch i'n tudalen gyda gwybodaeth i gleifion mewnol (yn agor mewn ffenest newydd).

Diolch

Mae eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu eich anwylyd, ond mae'n gefnogaeth enfawr i'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd.

Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu.