Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrwyo Proffesoriaeth Anrhydeddus i dri arbenigwr iechyd lleol

19 Rhagfyr 2022

Mae tri uwch arweinydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael Proffesoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Aberystwyth, gan gryfhau ymhellach arbenigedd y brifysgol mewn gofal iechyd a’i phartneriaeth â’r bwrdd iechyd lleol.

Mae gan Dr Helen Munro, Ymgynghorydd Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol y Bwrdd; Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgolion y Bwrdd; a Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid y Bwrdd, ddegawdau o arbenigedd yn y sector iechyd yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ran y Bwrdd hoffwn longyfarch Helen, Leighton a Huw ar gael eu penodi’n Athrawon Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ein partneriaeth gyda’r brifysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith hanfodol gyda’n gilydd yn y dyfodol.”

  • Mae Dr Helen Munro yn Ymgynghorydd mewn Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol gyda diddordeb arbennig mewn gofal menopos, ac yn gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â rôl fel Arweinydd Ymchwil ar gyfer Atal Cenhedlu ac Iechyd Atgenhedlol o fewn y bwrdd iechyd. Hi yw Is-lywydd y Gyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, un o'r sefydliadau aelodaeth mwyaf, sy'n ceisio cefnogi ei 15,000 o aelodau gyda hyfforddiant a chymwysterau a chynhyrchu arweiniad clinigol yn seiliedig ar dystiolaeth mewn Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol.
  • Dr Leighton Phillips yw Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesedd a Phartneriaethau Prifysgol y bwrdd iechyd, gan oruchwylio adran fawr a phortffolio sylweddol o dreialon clinigol, ymchwiliadau clinigol o ddyfeisiau a thechnolegau meddygol, a Strategaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Mae Dr Phillips wedi dal rolau arwain a chynghori yn y GIG, academia, cyrff anllywodraethol a’r uwch wasanaeth sifil, lle datblygodd strategaeth a system gynllunio newydd ar gyfer GIG Cymru. Mae diddordebau ymchwil Leighton yn cynnwys penderfynyddion bioseicogymdeithasol gwneud penderfyniadau mewn systemau cymhleth, gyda ffocws penodol ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar fabwysiadu technoleg mewn systemau gofal iechyd.
  • Daw Huw Thomas yn wreiddiol o Bontsian ger Llandysul. Astudiodd ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen cyn dod yn Gyfrifydd Siartredig tra'n gweithio i PricewaterhouseCoopers LLP yn Ninas Llundain. Bu'n gweithio o fewn y sector bancio cyn symud i'r GIG. Ar ôl gweithio i’r Ysbyty Brenhinol Unedig yng Nghaerfaddon, bu Huw yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn cael ei benodi i’w rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Digidol a Pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Huw wedi gwasanaethu fel Aelod o Gyngor Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban ac fel Ymddiriedolwr i’r Healthcare Financial Management Association. Ar hyn o bryd mae'n Ymddiriedolwr i'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu ein Hathrawon Er Anrhydedd newydd, a fydd gyda’i gilydd yn dod â degawdau o brofiad i’n hymchwil a’n haddysgu. Bydd eu harbenigedd yn cyfrannu ymhellach at y rhan sydd gennym fel prifysgol i’w chwarae i helpu i wella darpariaeth gofal iechyd i bawb.”

Mae’r tri phenodiad yn cyd-ddigwydd â phenodiad pellach Murray Smith yn Athro Economeg Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r Athro Smith yn arbenigwr yn y defnydd o economeg ac ystadegau i ragfynegi canlyniadau mewn iechyd ac ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd.