Mawrth 9 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer canolfan iechyd a lles integredig newydd yn Abergwaun.
Bydd y ganolfan newydd yn cefnogi gwasanaethau iechyd a lles yn ardal Gogledd Sir Benfro.
Mae’r datblygiad arfaethedig yn rhan o raglen ehangach o fuddsoddi mewn cyfleusterau iechyd a gofal cymunedol, fel yr amlinellwyd yn achos busnes rhaglen y bwrdd iechyd, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2022.
Yr uchelgais yw gweithio gyda phartneriaid fel y trydydd sector, Cyngor Sir Penfro a Chanolfan Iechyd Abergwaun mewn ffordd integredig i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal a dod â nhw yn nes at y gymuned. Mae hwn yn ddyhead yn strategaeth iechyd a gofal y bwrdd iechyd, ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach’.
Mae'r cynllun yn cael ei symud ymlaen gyda mewnbwn gan amrywiaeth o gyfranogwyr i ddatblygu achos busnes ar gyfer y buddsoddiad sydd ei angen.
Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Sirol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae datblygu cyfleusterau newydd ar gyfer poblogaeth gogledd Sir Benfro yn un o flaenoriaethau’r bwrdd iechyd ac rwy’n falch iawn ein bod wedi cymryd cam arall ymlaen.
“Rydym wedi ymgysylltu â’r cymunedau lleol yn barhaus ac wedi clywed pa mor bwysig yw gwasanaethau hygyrch lleol.
“Er ein bod ni nawr yn gweithio trwy ddatblygu’r achos amlinellol strategol bydd angen i ni ddod i ymgysylltu ymhellach i sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei ddatblygu yn cael ei gydgynhyrchu gyda’r boblogaeth a gwasanaethau lleol eraill.”
Mae’r buddsoddiad arfaethedig yn Abergwaun yn rhan o raglen buddsoddiad sylweddol y Bwrdd Iechyd (dros £1.3bn) a geisir gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid cyfleusterau cymunedol, ysbytai a gofal er mwyn cyflawni ein strategaeth.
I dderbyn diweddariadau yn y dyfodol ac i gymryd rhan mewn trafodaethau, cofrestrwch gyda chynllun Siarad Iechyd/Talking Health. Dysgwch fwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/siarad-iechyd-talking-health/