Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog Iechyd yn ymweld ag unedau llawfeddygaeth ddydd newydd

5 Awst 2022

Mae gwaith ar fin cael ei gwblhau ar yr Uned Llawfeddygaeth Ddydd newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, a fydd yn helpu i leihau rhestrau aros llawfeddygol fel bod pobl yn gallu cael eu gweld yn gyflymach ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflawni'r cynllun diolch i £20m o gyllid Llywodraeth Cymru. Bu Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, yn ymweld â'r uned heddiw, ac mae disgwyl i’r uned groesawu cleifion yn ystod mis Medi 2022.

Dywedodd: "Mae buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel uned llawfeddygaeth ddydd Ysbyty Tywysog Philip yn rhan hanfodol o'n strategaeth uchelgeisiol i drawsnewid gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru.

"Bydd yr uned newydd hon yn helpu i weld miloedd o bobl sydd angen triniaeth lawfeddygol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, yn ogystal â'r rhai o fyrddau iechyd cyfagos, a bydd yn dod â mwy o wydnwch a gallu i GIG Cymru i ofalu am bobl pan fydd ei angen arnynt."

Mae'r uned, yn cynnwys dwy theatr, a ddyluniwyd yn benodol i leihau'r risg o haint trwy gynhyrchu llif parhaus o aer rhydd o facteria, yn ogystal ag ystafelloedd paratoi, ystafelloedd anesthetig, cyfleusterau newid ac ardal adfer.

Yn y pen draw bydd gan y theatrau allu i gynnal chwe diwrnod yr wythnos a byddant yn cynnwys arbenigeddau gan gynnwys rhai orthopaedig, llawdriniaethau cyffredinol, wroleg a llawdriniaeth fasgwlaidd, er y bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno'n raddol.

Er eu bod wedi'u lleoli yn Llanelli, bydd y theatrau'n darparu gofal i gleifion ar draws rhanbarth Hywel Dda ac i gleifion ar y ffiniau â byrddau iechyd Powys ac Abertawe.

Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol a'r Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal wedi'i Drefnu Mr Ken Harries: "Yn y pen draw, rydym yn edrych am tua phedair i bum mil o gleifion i dderbyn triniaethau yn yr uned hon yn flynyddol. Rydym yn uchelgeisiol ar ran ein cymunedau ac yn ymestyn ein sesiynau a'n dyddiau theatr i gynyddu effeithlonrwydd a gweld cleifion, y mae rhai ohonynt wedi gorfod aros am gyfnodau sylweddol o amser weithiau.

“Mae her barhaus o gael y gweithlu i’n helpu i gyflawni hyn, ond mae honno’n her rydym yn ei rhannu gyda’r GIG ledled y wlad ac yn un yr ydym yn rhoi ein holl ymdrechion iddi. Gobeithiwn y bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf hwn a’n hymagwedd at adferiad yn denu recriwtiaid y dyfodol.

“Mantais ychwanegol y bydd yr uned hon yn ei rhoi i ni yw ei bod yn sefyll ar ei phen ei hun, sy’n ei hamddiffyn rhag effeithiau o fewn gweithgaredd ehangach y prif ysbyty, bydd hyn o fudd enfawr i gleifion sy’n dod i mewn i’r uned ac i’n staff hefyd.”

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol, Lee Davies: "Mae hwn wedi bod yn brosiect uchelgeisiol, wedi'i yrru gan awydd a rennir i ddarparu cyfleusterau ychwanegol cyflym i gleifion ar draws ein rhanbarth i gael eu triniaeth. Mae'n rhan o'n cynllun adfer ehangach i fynd i'r afael yn gyflym â rhestrau aros sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig, ac rydym yn gwybod bod hynny'n peri pryder sylweddol i'n trigolion ac yn flaenoriaeth allweddol i'r bwrdd iechyd hwn."

Bydd diweddariadau pellach ynghylch pryd y bydd yr uned ar agor, a chyfathrebu uniongyrchol â chleifion, yn cael eu rhannu maes o law.