Neidio i'r prif gynnwy

Gwedd newydd i Ward 10 wrth iddi ail agor i gleifion

Yn dilyn gwaith adnewyddu a moderneiddio helaeth, bydd Ward 10 Ysbyty Llwynhelyg yn ail-agor i gleifion Sir Benfro ddydd Llun, 6 Ebrill.

Bydd y ward ar ei newydd wedd yn cynnig gwell amgylchedd i ofalu am gleifion Oncoleg a Haematoleg a'r rheini ag anghenion gofal lliniarol cymhleth.

Mae'r cynllun datblygu wardiau, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, yn elwa ar fwy na £500,000 o roddion elusennol gan Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y Bwrdd Iechyd, Apêl Baner Ward 10 Elly, ynghyd â rhoddion sylweddol a gafwyd hefyd gan y diweddar Luke Harding a'i deulu.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’n wych gweld y buddsoddiad hwn yn Ysbyty Llwynhelyg yn dod yn fyw er budd cleifion yng nghymuned Sir Benfro. Rwy'n canmol pawb sydd wedi cymryd rhan, am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i weld y datblygiad pwysig hwn yn cael ei wireddu, yn enwedig yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

“Edrychaf ymlaen at ymweld â'r cyfleuster fy hun, gobeithio, yn y dyfodol agos, i ddarganfod sut mae cleifion a staff yn ymgartrefu yn eu hamgylchedd gwell

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gweithio'n agos gyda staff, cleifion, partneriaid a chodwyr arian dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth er budd cleifion Sir Benfro. Mae'r ward wedi'i foderneiddio wedi ei gynllunio gan staff, cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, rheolwyr ysbyty, codwyr arian, rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda a chyflenwyr lleol lle bo modd.

Ychwanegodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae'n wych gweld y ward yn ail-agor i gleifion. Mae'r cyfleusterau gwell yn rhan o'n buddsoddiad parhaus yn nyfodol Ysbyty Llwynhelyg a bydd yn darparu amgylchedd llawer gwell i gleifion Sir Benfro gael eu gofal a'u triniaeth yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.

"Hoffwn dalu teyrnged bersonol i bawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn ystod y misoedd diwethaf. Estynnaf ein diolchgarwch calonnog hefyd i gymuned Sir Benfro a phawb sydd wedi cyfrannu at y cyfleuster gwell hwn drwy ymdrechion anhygoel i godi arian a rhoddion hael. Diolch i chi gyd.

Dywedodd Lyn Neville, tad Elly: "Mae pob un ohonom sy'n ymwneud ag Apêl Baner Ward 10 Elly yn hynod falch o'r cyflawniad hwn. Ni allem erioed fod wedi breuddwydio i godi dros £210,000 ar gyfer y prosiect hwn ond fe wnaethom!!  Mae'r staff yn haeddu'r amgylchedd gorau posibl i weithio ynddo, ac i gleifion ymadfer.  Ar ôl treulio amser ar Ward 10 fel claf fy hun, mae'r prosiect hwn wedi fy ngalluogi i, ac eraill, i roi rhywbeth yn ôl i ddiolch am y gofal arbennig a gawsom. Mae gan y Ward y waw ffactor!

"Ar ran tîm Elly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i gymuned Sir Benfro gyfan sydd wedi dangos eu hanogaeth, eu haelioni, eu cefnogaeth a'u hysbrydoliaeth drwy gydol y daith bum mlynedd hon."

Dywedodd Nicola Zroud, Uwch Brif Nyrs: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld y ward yn ailagor gan y bydd yn rhoi amgylchedd llawer gwell i ni i roi i'n cleifion y safon orau o ofal y maen nhw'n ei haeddu ar adeg dyngedfennol yn eu bywyd.

"Bydd yn hwb mawr i'r staff a bydd y cyfleusterau newydd yn cael effaith enfawr ar y cleifion a'r staff."

Bydd Ward 10 ar ei newydd wedd yn darparu pum gwely sengl en-suite er mwyn rhoi mwy o breifatrwydd yn ystod gofal a mynediad gan gleifion â sepsis niwropenig a'r rhai sydd angen cyfleusterau ynysu. Mae baeau llai (2 Fae gwely a 4 cilfach wely a Bae 1 x 3 gwely) wedi'u datblygu yn ogystal â gwell cyfleusterau dros nos ar gyfer perthnasau, ystafell fwyta arbennig i gleifion a chyfleusterau i gefnogi'r rhai ag anghenion bariatrig. Yn ogystal, mae ystafell gyfarfod a chyfleuster fideogynadledda'r tîm amlddisgyblaethol wedi'u cynnwys fel rhan o'r gwelliannau ac mae gardd do ar y gweill fel cyfleuster yn y dyfodol ar gyfer y ward.

I gael y newyddion diweddaraf a'r wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i www.hduhb.nhs.wales