Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau fflebotomi yn Llanelli

28 Mawrth 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn edrych ar ffyrdd o wella'r ffordd y mae'n darparu gwasanaethau fflebotomi yn Llanelli.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig ar hyn o bryd yng Nghanolfan Antioch yn y dref.

Dywedodd Sarah Perry, Cyfarwyddwr Sirol Dros Dro Sir Gaerfyrddin a Rheolwr Cyffredinol Patholeg a Radioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mewn ymateb i adborth gan ein cleifion, mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio gwella ein gwasanaethau fflebotomi ar gyfer cymuned Llanelli.

“Rydym yn ymwybodol bod angen i’n poblogaeth ar hyn o bryd aros yn hirach nag yr hoffem am eu profion gwaed, ac rydym yn gobeithio dod o hyd i leoliad hygyrch yn Llanelli a fydd yn ein galluogi i gynyddu ein capasiti.

“Rydym yn ymwybodol bod angen i ni ymgysylltu â’n cymunedau ar unrhyw newid a byddwn yn ceisio gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, bydd ein gwasanaethau fflebotomi yn parhau i fod ar gael yng Nghanolfan Antioch.”

Gobeithiwn rannu newyddion pellach am ddarpariaeth gwasanaethau fflebotomi yn Llanelli yn y dyfodol agos a gofynnwn i gleifion sydd ag apwyntiadau ar gyfer profion gwaed barhau i fynychu eu hapwyntiadau yng Nghanolfan Antioch.

 

DIWEDD