Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth peilot LUMEN yn symud i gyfnod adolygu

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

25 Gorffennaf 2023

Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wasanaeth peilot, Llinell Asesu Symptomau Canser yr Ysgyfaint (LUMEN) ym mis Awst 2022 i gefnogi unigolion yn ardal Hywel Dda.

Roedd y gwasanaeth dan arweiniad nyrsys wedi'i anelu at ysmygwyr a phobl nad oeddent yn ysmygu ac fe'i ariannwyd gan Moondance Cancer Initiative, gyda chymorth ariannol ychwanegol gan Hwb Cydlynu Arloesedd Rhanbarthol Gorllewin Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru ac Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Nod y gwasanaeth, a oedd yn derbyn cleifion oedd yn hunangyfeirio ac wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, oedd cynorthwyo diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint. Ar gael yn Sir Gaerfyrddin i ddechrau, cafodd y gwasanaeth ei ymestyn ar draws Ceredigion a Sir Benfro ym mis Ionawr 2023 a rhedodd tan fis Gorffennaf 2023. Cefnogwyd y peilot gan ymgyrch ymgysylltu helaeth ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, fferylliaeth gymunedol ac optometreg, gan hyrwyddo'r gwasanaeth yn eang.

Mae'r gwasanaeth bellach ar saib wrth i ni archwilio tystiolaeth y peilot i benderfynu ar y camau nesaf. Rydym yn gweithio'n agos gyda Moondance Cancer Initiative a'r Grŵp Gweithredu ar Ganser i rannu canfyddiadau ein gwerthusiad.

Ym mis Medi 2022, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol diwygiedig y DU (NSC) symudiad ledled y DU tuag at weithredu sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu, wedi'i integreiddio â gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, ar gyfer unigolion risg uchel. Gobeithiwn y bydd ein gwaith ar beilot LUMEN yn cefnogi'r sefyllfa genedlaethol ar sgrinio canser yr ysgyfaint ledled Cymru a'r DU ehangach.

Tra bod peilot LUMEN yn cael ei adolygu, anogir unrhyw un sy'n pryderu y gallai fod ganddynt symptomau canser yr ysgyfaint i gael mynediad at gymorth drwy eu meddygfa leol.

DIWEDD