Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Maeth a Deieteg Hywel Dda wedi'i enwi fel y sgrinwyr maeth gorau yng Nghymru

11 Mawrth 2024

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael canmoliaeth uchel am ei gasgliad data ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth ym mis Tachwedd.

Mae diffyg maeth yn gyflwr difrifol iawn a all arwain at broblemau iechyd sylweddol, gan gynnwys cynyddu’r risg o gwympo, clwyfau sy'n gwella'n wael, colli cryfder, mwy o debygolrwydd o gael eu derbyn i’r ysbyty, arosiadau hwy yn yr ysbyty ac adferiad arafach.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth (MAW) yn fenter flynyddol yn y DU sy’n cael ei harwain gan Gymdeithas Brydeinig Maeth drwy'r Gwythiennau a'r Ymysgaroedd (BAPEN). Fel rhan o arolwg blynyddol cenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos, trefnodd aelodau o dîm Maeth a Deieteg y bwrdd iechyd yr arolwg sgrinio ar wardiau ysbytai ac mewn rhai lleoliadau cymunedol.

Mae Tom Cooze, un o’n dietegwyr yn Nhîm Sir Gaerfyrddin wedi’i enwi’n ‘sgriniwr uchaf’ yng Nghymru, drwy gefnogi’r gwaith o gofnodi data Sir Gaerfyrddin, a gasglwyd gan dîm cyfan y sir.

Dywedodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Diffyg Maeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n hynod o dda gweld BIP Hywel Dda yn cael ei gynrychioli’n llwyddiannus mewn arolwg mor arwyddocaol ledled y DU, gyda thair sir y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i gasglu’r data hwn. Mae hyn yn golygu y gallwn gefnogi creu darlun gwell o faint y broblem o ddiffyg maeth yn ein lleoliadau gofal, fel y gellir ceisio cyfleoedd i atal a gwella. Fel Timau ar draws y Bwrdd Iechyd, ein nod yw cefnogi pobl i atal diffyg maeth, a chanfod a mynd i’r afael â phroblemau diffyg maeth yn gynnar drwy sgrinio.”