Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Maeth a Deieteg Hywel Dda wedi enwi'r sgrinwyr maeth gorau

14/02/23

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn cydweithrediad â’r timau Gwella Ansawdd a Datblygu Ymarfer, wedi derbyn canmoliaeth uchel am ei waith yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth diweddar.

Mae diffyg maeth yn gyflwr difrifol iawn a all arwain at broblemau iechyd sylweddol, gan gynnwys cynyddu’r risg o gwympo, clwyfau sy'n gwella'n wael, colli cryfder, mwy o debygolrwydd o gael eu derbyn i’r ysbyty, arosiadau hwy yn yr ysbyty ac adferiad arafach.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth (MAW) yn fenter flynyddol yn y DU sy’n cael ei harwain gan Gymdeithas Brydeinig Maeth drwy'r Gwythiennau a'r Ymysgaroedd (BAPEN). Fel rhan o arolwg blynyddol cenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos, trefnodd aelodau o dîm Maeth a Deieteg y bwrdd iechyd yr arolwg sgrinio ar wardiau ysbytai ac mewn rhai lleoliadau cymunedol.

Ar ôl casglu'r nifer uchaf o arolygon, enwyd tîm Sir Gaerfyrddin hefyd yn sgriniwr gorau yng Nghymru gan BAPEN.

Dywedodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Diffyg Maeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Perfformiodd ein timau ar draws y tair sir yn arbennig o dda ac rwy’n falch o’u hymrwymiad i gasglu’r data a chefnogi’r broses sgrinio faethol.”

“Yn ogystal â chyfrannu at arolwg sylweddol ledled y DU, mae gennym hefyd bellach ddata lleol ystyrlon a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella ein gwasanaethau gyda’r nod o atal diffyg maeth a helpu i ganfod a mynd i’r afael â phroblemau diffyg maeth yn gynnar.”