Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth cofio babanod a garwyd ac a gollwyd

26 Mawrth 2024

Cynhelir ‘Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd a Gollwyd’ blynyddol Hywel Dda ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 yng Nghaerfyrddin.

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei drefnu gan staff y bwrdd iechyd a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth), wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ac i ddod at ei gilydd i dalu parch.

Cynhelir y gwasanaeth yng Nghapel Bethel, Hill House, Teras Picton, Caerfyrddin SA31 3BT am hanner dydd, ddydd Sadwrn 27 Ebrill. Mae Capel Bethel y tu ôl i swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chanolfan y Fyddin ar Deras Picton gyda digon o le parcio ar gael.

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn foment bwysig yn y flwyddyn pan fydd rhieni a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan brofiadau trist babanod sydd wedi marw.

“Mae’r profiad o golli babi yn hynod boenus, a gobeithiwn fod y gwasanaeth hwn yn galluogi rhieni a’u teuluoedd a staff i fyfyrio a chofio mewn gofod sydd wedi’i amgylchynu gyda cefnogaeth a chariad, wrth barhau ar y taith o wahanu trwy alar.

“Mae colli babi yn llethol ac emosiynol, ond gall cyfarfod ag eraill sy'n profi colled mewn ffordd debyg fod o gymorth.

“Fel staff pan fyddwn yn cyfarfod â theuluoedd  mae’n aml yn ystod y dyddiau tywyllaf o ddyddiau ond mae cwrdd â nhw eto yn y digwyddiad blynyddol hwn fisoedd neu flynyddoedd wedyn yn gyfle arbennig iawn ac yn gymaint o fraint wrth i ni rannu a chefnogi.

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a charedigrwydd Gwenidog Tim ac aelodau o Eglwys Bethel a fydd yn darparu lluniaeth.”

Bydd y gwasanaeth yn addas ar gyfer aml-ffydd a rhai di-ffydd. Yn ogystal â chofio, bydd gweddïau, darlleniadau, cerddi a cherddoriaeth i fyfyrdod.

Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyn, medrwch ddanfon neges ebost ar  Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk erbyn dydd Mawrth 23 Ebrill 2023

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu e-bostiwch 01267 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk