Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth ar-lein yn ymestyn i 6,000 o gleifion dermatoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwahoddwyd dros 6,000 o gleifion dermatoleg i ddechrau defnyddio Y Claf Sy’n Gwybod Orau (Patients Know Best (PKB), gwasanaeth ar-lein sydd wedi'i gynllunio i wella eich profiad fel claf a'ch mynediad at wasanaethau a gwybodaeth y GIG.

System ddiogel yn y DU yw Y Claf Sy’n Gwybod Orau sy'n eich galluogi i gael gafael ar wybodaeth mewn perthynas â'ch iechyd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg ac sy'n eich rhoi chi, y claf, â gofal am eich data meddygol. Mae eich cofnod wedi'i amgryptio fel mai dim ond chi a'r rhai rydych chi'n rhoi caniatâd iddynt gael mynediad iddo.

Mae'r system hefyd yn darparu lle diogel ar-lein i weld eich llythyrau apwyntiadau; yn caniatáu ichi olrhain a monitro eich iechyd a'ch symptomau; ac yn darparu mynediad i lyfrgell o adnoddau iechyd i gynorthwyo i reoli eich iechyd.

Dywedodd Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Digidol: “Mae'n wych gallu ymestyn y gwasanaeth ar-lein hwn i'n gwasanaeth dermatoleg yn dilyn ei gyflwyniad llwyddiannus i gleifion anadlol ym mis Gorffennaf.

“Os derbyniwch lythyr gwahoddiad gennym i gofrestru gyda Y Claf Sy’n Gwybod Orau bydd eich llythyr yn cynnwys cod gwahoddiad a mynediad i ymuno.

“Gobeithiwn y bydd y llythyr a’r daflen wybodaeth yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ond peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n tîm Gwella a Thrawsnewid gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y llythyr pe bai gennych unrhyw gwestiynau pellach.”