Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth ar-lein newydd wedi'i gyflwyno i fonitro iechyd y galon rhwng apwyntiadau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno Asesiadau Digidol; ffordd newydd o helpu cleifion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eu hiechyd rhwng apwyntiadau.

Bydd cleifion addas sy'n derbyn gofal gan ein Gwasanaeth Swyddogaeth y Galon yn derbyn negeseuon testun neu e-bost gyda dolen nhs.my i ffurflen Asesu Digidol i ateb cwestiynau am symptomau, iechyd corfforol ac ansawdd bywyd.

Bydd y tîm sy'n gyfrifol am eich gofal yn gallu adolygu'r wybodaeth a ddarperir yn yr Asesiad Digidol, gan ganiatáu iddynt wirio'ch cynnydd a deall eich iechyd rhwng eich apwyntiadau.

Mae'r ddolen nhs.my yn y neges destun a'r e-bost yn ddibynadwy ac yn cael ei ddarparu gan DrDoctor, gwasanaeth sydd wedi'i achredu i'r safonau uchaf a osodwyd gan y GIG ar gyfer amddiffyn gwybodaeth gofal iechyd dinasyddion y DU.

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio'n ddiogel y eich cofnod claf.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'n wych ein bod yn gallu cyflwyno Asesiadau Digidol am y tro cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer cleifion addas sydd o dan ofal ein Gwasanaeth Swyddogaeth y Galon.

“Nid yw Asesiadau Digidol yn disodli gofal meddygol. Bydd y wybodaeth a ddarperir trwy'r platfform diogel hwn yn monitro symptomau gartref yn rheolaidd i'n helpu i ddeall eich iechyd yn well a gwneud y defnydd gorau o'r amser a dreulir gyda'ch tîm clinigol.

“Rydyn ni’n gobeithio ehangu’r gwasanaeth hwn yn fuan i wahanol glinigau a gwasanaethau gan gynnwys gwasanaethau trawma ac orthopaedeg a gofal llygaid.”

Os yw'ch meddyg neu'ch nyrs wedi'ch adnabod chi fel claf addas i ddefnyddio Asesiadau Digidol, byddwch chi'n derbyn neges destun neu e-bost yn awtomatig yn gofyn i chi lenwi'r ffurflen ar-lein rhwng eich apwyntiadau.

Mae'n bwysig bod gennym eich rhif ffôn symudol cywir, enw llawn, cod post, dyddiad geni ac e-bost fel y gallwch fewngofnodi i lenwi'ch ffurflen ar-lein. Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion cyswllt, ffoniwch ni ar 0300 303 9642.