1 Tachwedd 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwella ei sefyllfa amgylcheddol trwy osod pwmp gwres ffynhonnell aer yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi (agor mewn dolen newydd).
Mae gwaith wedi cychwyn ar y prosiect a fydd yn helpu i leihau allyriadau carbon yr adeilad gan 30% a gwrthbwyso boeleri nwy naturiol sy'n darparu gwres i'r adeilad ar hyn o bryd.
Mae'r mesur yn rhan o strategaeth ddatgarboneiddio ehangach y bwrdd iechyd. Hyd yma, mae’r bwrdd iechyd wedi ymgymryd â nifer o brosiectau arbed ynni, gan gynnwys solar PV ar yr ystâd gymunedol, goleuadau ynni effeithlon, a boeler biomas yn un o’r ysbytai acíwt.
Cynhaliodd Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (agor mewn dolen newydd) asesiad dichonoldeb ar gyfer atebion gwres carbon isel i Ganolfan Gofal Integredig Aberteifi. Darparwyd cymorth i’r bwrdd iechyd arfarnu opsiynau gwres carbon isel a sut i integreiddio ateb i’r ystafell blanhigion wrth wasanaethu llwythi gwres â thymheredd is. Yr ateb a argymhellwyd oedd pwmp gwres ffynhonnell aer 70kW ac uwchraddio batris gwresogydd uned drin i unedau gradd tymheredd is. Arweiniodd hyn at sicrhau grant o £325,000 gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r cynllun erbyn 2021/22.
Dywedodd Paul Williams, Pennaeth Perfformiad Eiddo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i'r agenda datgarboneiddio. Mae gennym sawl prosiect a rhaglen ar y gweill a fydd yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyhoeddi amrywiaeth o fentrau a fydd yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i'r sector cyhoeddus fod yn sero-net erbyn 2030.”
Ychwanegodd Dave Powlesland, Uwch Reolwr gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Y newid i ffwrdd o danwydd ffosil i gynhyrchu gwres adnewyddadwy carbon isel yw un o’r sialensiau anoddaf sy’n wynebu’r Sector Gyhoeddus ar y llwybr i fod yn sero-net erbyn 2030. Mae parodrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gydweithio â’r Gwasanaeth Ynni a gweithredu nawr yn dangos sut y gellir cyflawni ôl-osod pwmp gwres, a hefyd uchelgais y bwrdd iechyd i arwain drwy esiampl ar y daith sero-net.”
Disgwylir cwblhau’r gwaith o osod y pympiau gwres ffynhonnell aer gael ei gwblhau ym mis Chwefror 2022.
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Mae ganddo darged tymor hir i leihau holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ac uchelgais ar gyfer y Sector Gyhoeddus i arwain y ffordd a bod yn sero-net erbyn 2030 (agor mewn dolen newydd).