Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith yn dechrau ar ofod awyr agored newydd i gleifion

Diolch i ymdrechion codi arian gwych a haelioni’r gymuned leol, dechreuodd y gwaith i ddatblygu teras to newydd ger Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar 18 Gorffennaf 2022.

Mae’r datblygiad teras to yn cael ei wneud yn bosibl diolch i Apêl Baner Ward 10 Elly a’r rhai sydd wedi gwneud rhoddion elusennol hael i’r Apêl a Chronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y bwrdd iechyd. Bydd y man awyr agored newydd hwn yn gwella profiad a lles cleifion a staff ar y ward a fydd yn gallu elwa o awyr iach a bod yn yr awyr agored.

Dywedodd Dr Andrew Burns, Cyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg: “Rydym yn gyffrous i weld y gwaith yn dechrau ar y teras to. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yr hydref hwn. Mae’n mynd i fod yn ychwanegiad gwych i’r ward, a bydd cleifion a staff yn elwa ohono.

“Yn y cyfamser, diolchwn i Apêl Baner Ward 10 Elly, cymuned Sir Benfro a phawb a gymerodd ran am eu cyfraniad, eu cefnogaeth a’u haelioni.”

Ychwanegodd Lyn Neville, tad Elly: “Mae pob un ohonom sy’n ymwneud ag Apêl Baner Elly yn falch o allu cyfrannu at brosiect teras to Ward 10. Bydd hyn yn galluogi cleifion i fwynhau rhywfaint o le yn yr awyr agored. Gall ysbyty fod yn lle brawychus a gall pethau bach, fel cael rhywfaint o awyr iach, wneud gwahaniaeth mawr i iechyd meddwl a llesiant claf.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio’n agos gyda phawb sy’n ymwneud â’r datblygiad, gan gynnwys codwyr arian a rhoddwyr, cleifion a staff.

Mae Ward 10 yr ysbyty ar ei newydd wedd yn darparu ystod o gyfleusterau sy’n darparu amgylchedd gwell i ofalu am gleifion ynddo. Mae'r ardal fodern, bwrpasol yn gyfeillgar i ddementia, yn cefnogi'r rhai sydd â gofynion bariatrig a gyda chyfleusterau gwell ar gyfer perthnasau. Mae’r cynllun datblygu ward cyffredinol, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, hefyd wedi elwa ar fwy na £500,000 o roddion elusennol gan Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y bwrdd iechyd, Apêl Baner Ward 10 Elly, ynghyd â rhoddion sylweddol a dderbyniwyd hefyd gan y diweddar Luke Harding a aelodau o’i deulu.