Neidio i'r prif gynnwy

Gostwng Statws Digwyddiad Mawr Mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg

Arwydd Ysbyty Llwynhelyg

19 Ionawr 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi bod y Digwyddiad Mawr Mewnol a ddatganwyd yn Ysbyty Llwynhelyg ar 15 Awst 2023 yn sgil darganfod planciau concrit diffygiol yn awr wedi dod i ben.

Gorfodwyd y bwrdd iechyd i weithredu’n ôl ym mis Awst oherwydd pryderon am ddiogelwch strwythurol safle Ysbyty Llwynhelyg ar ôl i nifer o blanciau Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) gael eu darganfod.

Mae’r penderfyniad i ddod â’r digwyddiad i ben yn golygu bod y bwrdd iechyd wedi mynd i’r afael â’r materion iechyd a diogelwch uniongyrchol a’r risgiau yr oedd RAAC yn eu peri.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hyn yn newyddion da, ond mae’n bwysig nodi bod rhai gwasanaethau’n parhau i gael eu dadleoli a’u darparu o leoliadau eraill, sy’n cyflwyno heriau gweithredol parhaus.

“Bydd gwaith atgyweirio yn parhau trwy gydol y flwyddyn hon. Mae yna hefyd raglen barhaus o waith arolygu rheolaidd i fonitro cyflwr y RAAC, a fydd yn achosi peth aflonyddwch o bryd i’w gilydd.”

Mae Mr Carruthers wedi diolch i'r holl staff sy'n gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg, Ysbyty De Sir Benfro a ledled y bwrdd iechyd am eu holl waith caled ac am addasu i sicrhau bod gwasanaethau cleifion yn cael eu cynnal gymaint â phosibl.

“Hoffwn hefyd ddiolch i gleifion, ymwelwyr ac aelod o’r cyhoedd am eu hamynedd, cefnogaeth a dealltwriaeth yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol iawn i ni a’n cleifion.” dywedodd ef.

“Rydym yn ddiolchgar i’n cleifion a’n staff, am eu cefnogaeth barhaus, ac am ddeall pryd y bu angen i ni symud gwasanaethau dros dro i leoliadau eraill. Mae gwaith caled ar y cyd staff a rheolwyr ysbyty, gyda chefnogaeth ein partneriaid awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru, wedi ei gwneud yn bosibl i ni wneud atgyweiriadau a chyrraedd y pwynt hwn o ostwng statws y digwyddiad.” meddai Mr Carruthers.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio i reoli’r gwaith o atgyweirio ac ailgomisiynu’r wardiau yr effeithiwyd arnynt. Rydym yn disgwyl y bydd wardiau’n cael eu defnyddio eto erbyn diwedd mis Mawrth 2024, gyda’r gwaith o atgyweirio’r ceginau a’r ardaloedd cleifion allanol i’w gwblhau yn ddiweddarach eleni.”