Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn i'r cyhoedd i weithio gyda'r GIG yn lleol

Diweddariad COVID Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn diolch i gleifion a'r cyhoedd am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i'r cyngor cyhoeddus newid ac wrth i weithwyr gofal iechyd yn ein hysbytai ac yn y gymuned baratoi ar gyfer anghenion gofal cynyddol o ganlyniad i'r pandemig COVID-19.

Yn dilyn fframwaith o fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac annerchiad yr Prif Weinidog (Llun 16 Mawrth 2020) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhoi’r canlynol ar waith:

  • Gohirio gweithdrefnau dewisol nad ydynt yn rhai brys, bydd gweithdrefnau brys ac argyfyngol yn parhau (cysylltir yn uniongyrchol â chleifion yr effeithir arnynt, a dylai eraill barhau fel arfer)
  • Gohirio apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys, bydd apwyntiadau brys yn parhau (cysylltir yn uniongyrchol â chleifion yr effeithir arnynt, a dylai eraill barhau fel arfer)
  • Cyfyngu ar ymweliadau â phob ysbyty aciwt a chymunedol, ond nid yw’n cael ei wahardd ar hyn o bryd gan fod y rhan bwysig y mae ymwelwyr yn ei chwarae wrth ddiwallu anghenion llesiant cleifion yn cael ei chydnabod (er enghraifft cefnogi amser bwyd a helpu cleifion i gerdded a symud). Dyma’r egwyddorion ymweld ar hyn o bryd:
    • Dim ymweld o gwbl os oes symptomau o unrhyw salwch heintus (annwyd, peswch, gwres, dolur rhydd a/neu chwydu)
    • Dim ymweld â chleifion lluosog ar draws safle’r ysbyty
    • Dim plant i ymweld (oni bai mewn amgylchiadau gofal diwedd oes)
    • Dim ond un ymwelydd i bob claf, argymhellir y prif ofalwr os yn bosibl (mae hyn hefyd yn berthnasol i baediatreg a mamolaeth)
    • Dim ymweld am hwy na 15 munud (bydd paediatreg a mamolaeth yn cael eu hasesu gan y brif nyrs ward/bydwraig)
    • Dim ond un rhiant i ymweld â’i blentyn ar y tro (dim teulu estynedig heb hawl penodol)
    • Dim ond un partner geni i famau sy’n rhoi genedigaeth
  • Mae Gofal Sylfaenol (megis Meddygfeydd) yn gwneud trefniadau yn lleol, ond dyma’r hyn sy’n nodweddiadol:
    • Symud at frysbennu dros y ffôn, gan gynyddu gydag amser i ymgynghoriadau ar-lein a fideo gyda chleifion lle bo’n briodol
    • Atal rhai gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol, yn cynnwys clinigau teithio, a symud at adolygiadau dros y ffôn lle bo’n briodol
    • Symud at roi presgripsiynau am fwy nag un mis lle bo’n ddiogel gwneud hynny
  • Mae staff therapi a chymunedol yn adolygu newidiadau mewn ysbytai a gofal sylfaenol a byddant yn addasu eu gwaith yn unol â hynny, gan gysylltu ag unrhyw gleifion yr effeithir arnynt, a sicrhau bod gofal critigol yn cael ei ddarparu
  • Canslo neu ohirio digwyddiadau a chyfarfodydd nad ydynt yn rhai brys i ganiatau amser ac adnoddau i staff i gefnogi’r gwaith blaenoriaeth hwn

Meddai Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar am y fframwaith gan Lywodraeth Cymru sydd wedi caniatau inni wneud rhywfaint o benderfyniadau lleol i baratoi ein gwasanaethau iechyd i ddiwallu anghenion iechyd critigol ein poblogaeth. Rydym yn gobeithio bod y cyhoedd yn deall pam ein bod yn gwneud y newidiadau hyn, er budd ein cleifion. Hoffem sicrhau’r cyhoedd bod ein gwaith ar ansawdd a diogelwch yn parhau ac yn hollbwysig ar hyn o bryd.

“Rydym wedi gweld llawer o gefnogaeth i staff y Gwasanaeth Iechyd gan y cyhoedd, staff presennol a blaenorol a phartneriaid, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hyn, gan ei fod wir yn helpu morâl staff. Yn anffodus, rydym hefyd wedi cael adroddiadau bod staff cymunedol yn cael eu cam-drin ar lafar am wisgo iwnifform tra allan. Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae’n ofynnol i’n gweithwyr iechyd cymunedol deithio rhwng cleifion yn yr un iwnifform. Maent yn gweithredu canllawiau cenedlaethol mewn perthynas ag atal a rheoli heintiau. Er ei bod yn arfer gorau newid mewn ac allan o iwnifformau yn y gwaith a pheidio a’u gwisgo tra’n teithio, nid yw hyn yn berthnasol i weithwyr iechyd cymunedol. Mae hefyd yn seiliedig ar ganfyddiad y cyhoedd yn hytrach na thystiolaeth o risg haint.”

Yr wythnos hon, mae'r bwrdd iechyd wedi sefydlu Canolfan Cydlynu COVID-19 pwrpasol er mwyn rheoli'r gwaith cynllunio ac ymateb.

Atgoffir aelodau'r cyhoedd a staff y Gwasanaeth Iechyd o'r ymdriniaeth newydd yn y DU, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog. Os oes gennych chi neu unrhywun yn eich cartref y symptomau canlynol o Coronafeirws, dylech aros gartref am 14 diwrnod:

  • gwres uchel a/neu
  • peswch newydd parhaus

Arhoswn am unrhyw ganllawiau sydd wedi'u diweddaru ymhellach.

I’r mwyafrif o bobl mae symptomau Coronafeirws yn rhai cymedrol a gallwch hunan-ofalu gartref. Gwiriwch eich symptomau yn gyntaf ar wiriwr symptomau ar-lein y GIG ar gyfer COVID-19

Dim ond os ydych yn profi’r canlynol y mae angen i chi gysylltu ag 111:

  • teimlo na allwch ymdopi â’ch symptomau gartref
  • eich cyflwr yn gwaethygu
  • nid yw’ch symptomau’n gwella ar ôl 7 diwrnod

Peidiwch â mynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty. Dylai pawb osgoi cyswllt cymdeithasol diangen, ac osgoi mynychu tafarndai, clybiau, theatrau a bwytai.

Gall pob un ohonom gadw ein cymunedau’n ddiogel trwy olchi dwylo yn amlach nag arfer, a hynny am 20 eiliad gan ddefnyddio sebon a dŵr twym, yn enwedig ar ôl peswch, tisian a chwythu trwyn, neu ar ôl bod mewn mannau cyhoeddus lle mae eraill yn gwneud hynny. Defnyddiwch lanweithydd dwylo os mai dyna’r cyfan sydd gennych.

Er mwyn lleihau ledaeniad germau pan fyddwch yn peswch neu disian, gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn gyda hances, neu os nad oes gennych hances defnyddiwch eich llewys (dim eich dwylo), a thaflwch yr hances yn syth. Yna golchwch eich dwylo neu defnyddiwch lanweithydd dwylo.

Ychwanegodd Ros Jervis: “Rydym yn deall pa mor anodd yw hi i’n cyhoedd a’n staff yn y sefyllfa hon sy’n newid yn gyflym. Rydym yn annog pobl i gyfeirio at ffynonellau swyddogol am wybodaeth ar yr adeg hon ac i beidio ag ymddiried mewn ffynonellau answyddogol, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Diolchaf unwaith yn rhagor i’n staff, ein cleifion a’n cymunedau.”