Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn i rieni plant 2 a 3 oed i beidio ag oedi i roi brechlyn ffliw i'w plentyn wrth i'r gaeaf agosáu

4 Rhagfyr 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn pryderu y gallai’r nifer isel o blant 2-3 oed sy’n cael y brechlyn ffliw trwynol ar hyn o bryd roi niferoedd uwch o blant ifanc mewn perygl o fynd i’r ysbyty y gaeaf hwn.

Y llynedd, ffliw oedd y prif reswm dros dderbyn bron i 800 o blant 2-16 oed i ysbytai ledled Cymru.

Yn anffodus, mae’r data presennol yn dangos bod ychydig llai na chwarter y plant 2-3 oed ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi manteisio ar eu cynnig brechu, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn pryderu y gallai plant na ddaeth ar draws firws y ffliw rhwng 2020-2022, pan nad oedd llawer o gymysgu cymdeithasol, fod yn arbennig o agored i'r afiechyd.

Er gwaethaf y nifer isel o blant iau sy’n cael eu derbyn ar hyn o bryd, mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd lle mae plant pedair oed a hŷn yn cael cynnig y brechlyn ffliw trwynol drwy’r tîm nyrsio ysgol.

Gyda’r tîm nyrsio ysgol yn dal i ymweld ag ysgolion hyd at wyliau’r Nadolig, rydym yn disgwyl nifer dda y tymor hwn ymhlith ein plant cymwys, gyda hyd yn hyn mwy na chwech o bob deg o blant ysgol gynradd a mwy na hanner y plant uwchradd yn manteisio ar y cynnig.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r niferoedd cadarnhaol sy’n eu derbyn mewn ysgolion yn dangos bod llawer o rieni yn cydnabod pwysigrwydd y brechlyn ffliw trwynol blynyddol ac yn hapus i gydsynio i’w plentyn ei gael.

“Rydym yn deall bod rhieni yn hynod o brysur ac yn aml yn jyglo gwaith, gofal plant a gofynion eraill ac efallai eich bod wedi derbyn gwahoddiad gan eich meddyg teulu ac na allech wneud yr apwyntiad.

“Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, rydym yn annog rhieni’n gryf i gysylltu â’u meddygfa i drefnu bod eu plentyn (2 a 3 oed) yn cael eu brechlyn ffliw chwistrell trwyn heb oedi.

“Mae brechu yn lleihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill ac yn amddiffyn eich plentyn rhag cymhlethdodau ffliw. Er enghraifft, gall plant sydd wedi cael y ffliw yn ddiweddar hefyd ddatblygu haint mwy difrifol yn ystod achos o'r dwymyn goch.

“Trwy frechu’ch plant, byddwch yn amddiffyn eich anwyliaid sydd mewn perygl mawr o’r ffliw, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae hyn yn hanfodol cyn cynulliadau a digwyddiadau teuluol trwy gydol mis Rhagfyr.

“Cysylltwch â’ch practis meddyg teulu i ail-archebu brechiad eich plentyn ac os yw sesiynau brechu ffliw trwynol wedi dod i ben, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk.”

Bydd tîm nyrsio ysgol BIP Hywel Dda yn parhau i ymweld ag ysgolion i ddarparu’r brechlyn ffliw trwynol hyd at wyliau’r Nadolig a byddent yn trefnu sesiynau ychwanegol i blant a oedd yn absennol neu’n sâl yn ystod eu hymweliad cyntaf.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw tymhorol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://phw.nhs.wales/fluvaccine.