Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn i bobl mewn grwpiau blaenoriaeth brechlyn 1 i 3 i gysylltu â gwasanaethau iechyd ynghylch apwyntiadau brechlyn cyntaf

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl mewn grwpiau blaenoriaeth brechlyn 1 i 3 gysylltu cyn gynted â phosibl os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad brechlyn COVID-19 eto.

Gyda phwy i gysylltu:

• Grŵp blaenoriaeth 1 - staff cartrefi gofal - cysylltwch â 0300 303 8322 * neu e-bostiwch eich enw, teitl swydd a sefydliad, rhif ffôn symudol a'r ganolfan frechu dorfol agosaf at COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Grŵp blaenoriaeth 2 - staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen - e-bostiwch eich enw, teitl swydd a sefydliad, rhif ffôn symudol a'r ganolfan frechu dorfol agosaf at COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Grŵp blaenoriaeth 2 - pobl 80 oed a hŷn - cysylltwch â'ch meddygfa yn uniongyrchol.

Grŵp blaenoriaeth 3 - pobl 75 i 79 oed - ffoniwch 0300 303 8322* neu e-bostiwch COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk 

Mae'r gwasanaethau iechyd yn cael eu boddi gan alwadau, e-byst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol gan y cyhoedd sy'n ymholi am y brechlyn. Os nad ydych yn un o'r grwpiau blaenoriaeth a restrir uchod, peidiwch â chysylltu â'r bwrdd iechyd neu'ch meddyg teulu ynglŷn â'r brechlyn ar yr adeg hon.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hyderus y bydd pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 yn cael cynnig brechlyn erbyn dydd Llun 15 Chwefror diolch i ymdrechion anhygoel timau brechu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Fodd bynnag, mae pobl yn newid rhifau ffôn neu'n symud i dŷ newydd ac efallai na fyddant bob amser yn diweddaru eu manylion cyswllt gyda'r gwasanaethau iechyd. Dyma pam rydyn ni am wneud yn hollol siŵr nad oes unrhyw un wedi colli apwyntiad i gael eu brechu. ”

* Mae llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, dydd Sadwrn 6 Chwefror yn unig rhwng 10am a 4pm, a dydd Sul 7 Chwefror yn unig rhwng 10am a 3pm.