Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu am ein GIG

Rydym yn parhau i brofi pwysau ar draws ein gwasanaethau Tu allan i Oriau, adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygfeydd.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt yn sâl neu wedi anafu, efallai mai gwasanaethau eraill sy’n darparu gofal sydd ei angen arnoch:

  • Gwiriwr symptomau ar-lein: Gwiriwch eich symptomau ar-lein gyda Galw Iechyd Cymru: https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/selfassessments/
  • Hunanofal: Gallwch drin rhai mathau o salwch yn eich cartref gan ddefnyddio meddyginiaethau sydd ar gael dros y cownter a chael digon o orffwys. Dylech gadw pecyn cymorth cyntaf parod yn y cartref i gynnwys: Rhwymynnau, plasteri, thermomedr, antiseptig, golch llygad, dresin di-haint, tâp meddygol, a phliciwr.
  • Fferyllfeydd: Gall eich fferyllfa leol wneud llawer mwy na dosbarthu meddyginiaeth a gallai arbed taith i'ch meddyg teulu neu ysbyty. O driniaeth ar gyfer anafiadau lefel isel fel ysigiadau a streifiadau i gyngor a thriniaeth gyfrinachol y GIG am ddim ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin fel poen cefn, heintiau llygaid i frech yr ieir, gall eich fferyllydd helpu. Darganfyddwch pa wasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa leol trwy ymweld.
  • Galw Iechyd Cymru neu wasanaethau y Tu Allan i Oriau - ffoniwch 111.

Yn ogystal, os oes gennych berthynas neu anwylyd yn yr ysbyty sydd wedi cael ei basio'n ffit i gael eu rhyddhau, helpwch ni trwy drefnu gyda'r ward i cael nhw adref mor gynted â phosibl os yn bosib - mae hyn yn well iddyn nhw ac yn ein helpu ni i ryddhau gwelyau ar gyfer cleifion gofal brys eraill. Er ein bod yn cydnabod bod gwahanol resymau pam y gallai claf brofi oedi cyn cael ei ryddhau, mae unrhyw gymorth y gallwch ei ddarparu yn bwysig gan ei fod yn ein helpu i amddiffyn adnoddau acíwt y GIG ar gyfer y person nesaf sydd ei angen. 

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gyda’r cyfri lawr i’r Flwyddyn Newydd ar y gweill, mae’n deg dweud ein bod eisoes yn profi rhai cyfnodau anodd iawn yn ceisio darparu gwasanaethau gofal brys ac argyfwng.

“Mae gennym ni ddisgwyliadau clir ynglŷn â gweld a thrin cleifion yn y ffordd rydyn ni eisiau, ond allwn ni ddim ei wneud heb gymorth ac mae angen y cyhoedd arnom yn frys i’n helpu ni. Dilynwch ganllaw Dewis Doeth ac ystyriwch fathau eraill o ofal os yn bosibl, ac os ydych chi'n cynllunio unrhyw ddathliadau i groesawi’r Flwyddyn Newydd, cofiwch gadw'n ddiogel ac yn iach gan fod y noson brysur hon o'r flwyddyn yn rhoi llawer o alw ychwanegol ar ein staff a'n sefydliadau partner fel y gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu.”