Neidio i'r prif gynnwy

Gofal iechyd brys tra ar wyliau

Gyda’r disgwyl i filoedd o ymwelwyr ddod i'r ardal dros y ddau fis nesaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i weithio gyda chontractwyr gofal sylfaenol i sicrhau bod gofal iechyd hanfodol a brys ar gael i breswylwyr ac ymwelwyr.

Mae ymgyrch sy'n hysbysu'r rhai sy'n ymweld â Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a lansiwyd yn ddiweddar gan y bwrdd iechyd, yn cynnwys taflenni mewn pecynnau llety, posteri i'w harddangos mewn llety i ymwelwyr a hysbysebion radio ar draws gorsafoedd lleol.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod falch o’n staff a’n contractwyr gofal sylfaenol yn Hywel Dda sy’n parhau i weithio’n galed i amddiffyn iechyd ein cymunedau mewn ymateb i COVID-19.

“Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid o fewn awdurdodau lleol i weithredu ein hymateb cynlluniedig a'n mesurau rheoli heintiau llym.

“Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad ymwelwyr â’r ardal, ac yn gofyn i bobl ymgyfarwyddo â’r wybodaeth ar sut i gael gafael ar ofal brys tra ar wyliau.

“Gall pawb gymryd camau syml i aros yn iach trwy olchi eich dwylo yn rheolaidd, defnyddio dŵr poeth a sebon neu lanweithydd dwylo, a chadw at bellter cymdeithasol da.”

Mae pellter cymdeithasol ar waith ar draws meddygfeydd, fferyllfeydd, practisau deintyddol ac optometryddion ar gyfer diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy'n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio'r PPE priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd.

Mae gwasanaethau'n gweithredu mewn ffordd wahanol yn ystod y pandemig hwn ac mae llawer o bractisau'n defnyddio technoleg newydd i frysbennu ac ymgynghori â'u cleifion gan gynnwys defnyddio galwadau fideo.

Ychwanegodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Nawr bod y sector twristiaeth yn croesawu pobl yn ôl i’n rhanbarth hardd, mae’n bwysig bod ymwelwyr yn gwybod sut i gael gafael ar ofal iechyd brys pe baent yn mynd yn sâl tra ar wyliau.

“Hoffem ddiolch i’n contractwyr mewn gofal sylfaenol sy’n parhau i weithio’n galed i gynnig gwasanaethau hanfodol a brys i’w cleifion a’u hymwelwyr yn ystod yr amser anodd hwn.”

Mae gwybodaeth i'r rhai sy'n ymweld â'r tair sir yn cynnwys: 

Symptomau COVID-19

I gael cyngor cysylltiedig â COVID-19, ffoniwch 111. Os ydych chi'n datblygu symptomau (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golled neu newid mewn ymdeimlad o arogl neu flas) rhaid i chi, ac unrhyw un sy'n teithio gyda chi, ddychwelyd adref cyn gynted â yn bosibl os yn ddigon da i wneud hynny, ac archebu prawf trwy https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws?_ga=2.150433526.1126342428.1596531908-1785464897.1583924604 neu ffonio 119. Rhaid i chi beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Os ydych chi'n rhy sâl i ddychwelyd adref ar unwaith, a bod angen prawf yn lleol, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-i-twristiaid-ac-ymwelwyr/

Gofal brys

Ffoniwch 999 bob amser am argyfyngau neu ymwelwch â'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf. Ar gyfer mân anafiadau gallwch fynd i uned mân anafiadau.

Gofal Pediatreg

Os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl, ffoniwch 999 os yw'n argyfwng. Os nad yw'n fater brys ond mae angen cefnogaeth arnoch chi, cysylltwch â 111 a fydd yn gwybod ble mae'ch gwasanaethau lleol. Sylwch nad oes gan bob un o'n hysbytai ystod lawn o wasanaethau pediatreg.

Gofal Sylfaenol

Gofal Brys: Dylech ffonio practis lleol sy'n cwmpasu'r cyfeiriad lle'r ydych chi'n aros. Peidiwch ag ymweld â'r feddygfa yn bersonol; mae gan bractis fesurau llym ar waith. Os yw'r practis o'r farn bod angen triniaeth wyneb yn wyneb arnoch chi, bydd y practis yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud. Nid yw meddygfeydd yn gallu cynnig gofal nad yw'n hanfodol.Gofal nad yw’n frys: Cysylltwch â'ch meddygfa eich hun i dderbyn cyngor dros y ffôn neu ar-lein.

Gofal Fferyllol

Os oes angen meddyginiaeth ailadroddus arnoch, dylech gysylltu â'r practis meddyg teulu yr ydych wedi cofrestru ag ef i gael presgripsiwn. Gellir darparu cyflenwad brys o feddyginiaeth, heb bresgripsiwn, os bodlonir meini prawf penodol. Ffoniwch ymlaen llaw cyn ymweld â'r fferyllfa. Efallai y gofynnir i chi aros y tu allan.

Gofal Deintyddol a llygaid

Os oes gennych broblem ddeintyddol neu lygaid brys na all aros nes i chi gyrraedd adref, ffoniwch 111 i gael mynediad at apwyntiad brys. Sylwch os oes gennych waedu nad yw wedi stopio yn dilyn echdynnu, chwyddo difrifol yn yr wyneb neu chwyddo sy'n ei gwneud hi'n anodd anadlu, mae angen i chi fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

I weld ystod lawn o Gwestiynau Cyffredin, ac i gael manylion cyswllt gwasanaethau gofal iechyd lleol, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gofal-sylfaenol/ Am gyngor cyffredinol ffoniwch 111.

DIWEDD