Neidio i'r prif gynnwy

Galwch heibio am eich brechlyn MMR

24 Mai 2024

Mae'r frech goch yn salwch difrifol i blant y gellir ei atal gan frechlyn hynod effeithiol a diogel.

Yn dilyn achos datganedig o'r frech goch yng Ngwent, mae'n bwysig iawn eich bod chi a'ch teulu yn cael eich diogelu â dau ddos o'r brechlyn MMR.

Mae dros 95% yn effeithiol o ran atal y frech goch ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny â dosau yr ydych wedi'u methu.

Gall unrhyw un sy'n bump oed a throsodd alw i mewn i un o'n canolfannau brechu i dderbyn eu brechlyn MMR, nid oes angen apwyntiad.

  • Cwm Cou (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai a dydd Mercher 5 a dydd Mawrth 11 Mehefin).
  • Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai).
  • Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE) – 9am i 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai, dydd Gwener 31 Mai a dydd Gwener 7 Mehefin).

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Y frech goch yw un o’r clefydau mwyaf heintus a bydd bron pawb sy’n ei ddal yn datblygu twymyn uchel a brech. Bydd un o bob 15 o bobl yn cael cymhlethdodau difrifol, gan gynnwys haint ar yr ysgyfaint (niwmonia) neu'r ymennydd (enseffalitis) 

“Mae’r gostyngiad yn y nifer sy’n manteisio ar y brechlyn MMR yn y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod gennym lawer o blant a phobl yn ein cymunedau sy’n agored i niwed a heb eu hamddiffyn rhag y frech goch, sy’n achosi salwch difrifol i lawer o bobl. 

“Mae’r brechlyn MMR yn ddiogel ac yn hynod effeithiol i’ch amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Rwyf am annog rhieni a gofalwyr i feddwl am ddiogelwch eu plant a sicrhau bod ein cymunedau yma yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hamddiffyn.”

Os nad ydych yn gallu mynychu un o’n canolfannau brechu ac yr hoffech drefnu brechlyn MMR i chi neu’ch plentyn, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i helpu.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR, ewch i icc.gig.cymru/mmr.